Dros bedwar dydd Sadwrn ym mis Medi, cynhaliodd Theatr Felinfach Ŵyl yr Enfys.

Roedd hon yn ŵyl rithwir i ddathlu creadigrwydd ac egni Ceredigion a’i phobl er gwaetha cyfnod hanesyddol y clo mawr. Roedd hi’n ŵyl greadigol, ddiwylliannol, ddigidol i Geredigion a’r byd ac yn gyfle i roi hwb i’r haf a hapusrwydd a dangos bod bywyd, cymdeithas a chreadigrwydd yn parhau i ffynnu er gwaetha’r misoedd diwethaf.

Agorwyd Gŵyl yr Enfys gan Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, ar ddydd Sadwrn 4 Medi 2020, ac er mai crafu’r wyneb a wnaethpwyd yn ystod yr ŵyl, mae Theatr Felinfach yn mawr obeithio ei fod wedi rhoi darlun o’r ystod eang o fusnesau, cyfleoedd, cynnyrch a’r diwylliant byw sydd ar gael yn y sir gan roi llwyfan a llais i’r partneriaid i gyd, sef; Gwinllan Llaethliw, Canolfan Seren, Bar Cwtsh, Caru Gwin, Bwydydd Blasus Hathren, Gŵyl Gwrw a Seidr Llambed, Melysion Mam, Cered – Menter Iaith Ceredigion, Catrin Amhun – Hyfforddwr Lles, Band Bwca, Cwmni Theatr Arad Goch, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Amgueddfa Ceredigion, Cwmni Theatr Troedyrhiw, Richard Vaughan, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsian, Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, Bro 360, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Mwldan a Catrin Finch, Alaw Mair Jones, Catrin Davies a Barbara Roberts, Gwilym Bowen Rhys a Ryland Teifi.

Cynlluniwyd tri dydd Sadwrn cyntaf yr ŵyl o gwmpas cyfres o themâu, sef bwyd a diod, iechyd, cymdogaethau a chreadigrwydd y sir ac ar y dydd Sadwrn olaf dangoswyd uchafbwyntiau’r ŵyl gydag ambell syrpreis hefyd.

Gyda chymorth ein partneriaid llwyddwyd i grynhoi enghreifftiau o waith a gweithgareddau trwy gyfrwng ffilmiau, sgyrsiau a digwyddiadau cerddorol a oedd yn dathlu ein diwylliant, ein hiaith, ein ffordd o fyw a’r tir o dan ein traed. O weithdai coginio i sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, o flasu gwin a chwrw i eitemau o’r archif megis hanes Cassie Davies, Tregaron. Cynhaliwyd yr ŵyl ar blatfform digidol, gwylyrenfys.cymru, ac er bod y digwyddiad eisoes wedi ei gynnal mae modd gwylio’r eitemau i gyd ar alw ar sianel YouTube Gŵyl yr Enfys.

Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Er mai ymateb creadigol i’r cyfnod clo oedd sefydlu’r ŵyl, rwy’n hynod falch o’r ffordd y cyfrannodd cymaint o bartneriaid at yr ŵyl, ac rwy’n hyderus bod yma sail i fwy o gydweithio a chyd-greu y tu hwnt i 2020. Mae diwylliant a’r celfyddydau yn allweddol wrth godi hyder ein cyfranogwyr, a’n cynulleidfaoedd a does dim gwadu effaith pellgyrhaeddol ein diwydiant ar iechyd a lles cymunedau, boed hynny ar neu du hwnt i’r llwyfan.”

Ychwanegodd Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach: “Mae’r misoedd diwethaf wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfnod heriol i bawb ym mhob maes a diwydiant. Nawr mae angen i ni baratoi'r ffordd i ail-gydio yn ein gwaith gyda llwyfannu perfformiadau a datblygu'r rhaglen gyfranogol mewn modd diogel fel y gallwn greu momentwm ac incwm i ail-adeiladu'r gwaith i'r dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Hoffwn longyfarch Theatr Felinfach ar gynnal gŵyl ddiwylliannol, ddigidol o’r radd flaenaf. Mae gwaith y Theatr a llwyddiant Gŵyl yr Enfys yn brawf o bwysigrwydd creadigrwydd i'n cymdeithas ac yn fodd o roi hwb i bobl Ceredigion.”

Daeth yr ŵyl i ben ddydd Sadwrn 26 Medi 2020 gyda Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, yn ei chloi gan ddiolch i'r theatr am ei atgoffa ef ac eraill mai yn y diwylliant y mae’r chwyldro.

13/10/2020