Yn dilyn ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd, cynhaliodd Theatr Felinfach a Cered: Menter Iaith Ceredigion, ynghyd â phartneriaid eraill, gyfres o ddigwyddiadau ledled Ceredigion i ddathlu Cymru, ei hiaith, ei diwylliant a’i Wal Goch.

Dywedodd Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered: Menter Iaith Ceredigion: “Nod yr ŵyl a’r amrywiol weithgareddau oedd bod yn hygyrch i bawb mewn lleoliadau addas, cynnes, a lle bo’n bosib a phriodol, o fewn pellter cerdded i aelodau’r gymuned leol neu ar lwybr trafnidiaeth gyhoeddus.”

Y digwyddiad cyntaf a gynhaliwyd oedd gweithdai ‘Ffotos Ffwti’ ar 20 Tachwedd yn Llanddewi Brefi gyda’r ffotograffydd Owen Pedr Edwards. Roedd yr hyfforddiant yn ceisio dysgu’r aelodau sut i ddal ysbryd y gymuned mewn gêm bêl-droed ar gamera. Bu cyfle wedyn i’r rhai oedd yn bresennol dynnu lluniau gêm bêl-droed Sêr Dewi yn erbyn Ffostrasol.

Bydd ‘Ffotos Ffwti’ yn cael ei gynnal cyn gêm merched Aberystwyth yn erbyn Y Seintiau Newydd ar 04 Rhagfyr. Bwriedir cynnal dwy sesiwn gydag artist ac aelodau hefyd o ddwy gymuned i gyfrannu syniadau er mwyn creu murlun i ddehongli ysbryd cyd-chwarae.

I ddathlu gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr Unol Daleithiau, recordiwyd pennod byw o ‘Cefn y Rhwyd’ o Dafarn y Vale yn Felinfach gan y cyflwynwyr Rhodri Francis a Steffan Rees. Yn ysu i roi eu barn roedd tri o wybodusion pêl-droed yr ardal, sef Rhodri Jones ac Eilir Evans o Glwb Pêl Droed Felinfach ac Arwel Jones o Glwb Pêl Droed Tregaron Turfs. Cafwyd tipyn o hwyl a thynnu coes a thrafodaethau diddorol yn ystod y rhaglen ac mae’n bosib gwrando nôl ar y rhaglen ar Aeron360.

Teithiodd bws yn llawn o aelodau brwdfrydig Ysgol Berfformio Theatr Felinfach i gae aml dywydd Llanbedr Pont Steffan i graffu ar symudiadau a sgiliau tîm pêl-droed Felinfach. Wedi hyn crëwyd dawns o’r symudiadau a fydd yn rhan o’u sioe yn ystod gwyliau’r Pasg.

Cafwyd noson a hanner o ganu a joio yn nhafarn yr Halfway Inn ym Mhisgah gyda Meibion y Mynydd a Steffan Rees yn diddanu’r gynulleidfa ar 25 Tachwedd. Ac yna noson arall gyda Steffan Rees, ei gitâr a’i gyfeillion yn nhafarn y Ship and Castle, Aberystwyth cyn gêm Cymru yn erbyn Lloegr.

Cynhaliwyd noson hwylus o ‘Y Vale, Y bêl a’r beirdd’ yn Nhafarn y Vale, Felinfach gyda’r prifeirdd Ceri Wyn Jones, Idris Reynolds, Hywel Griffiths a Gwenallt Llwyd Ifan.

Dywedodd Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Roedd cynnal gŵyl o’r fath yn gyfle i ddathlu camp tîm pêl-droed Cymru, ond hefyd dathlu’r gymuned, dathlu cyd-chwarae a hybu ymdeimlad o berthyn a llesiant cyfranogwyr, cynulleidfaoedd ac artistiaid.”

Ychwanegodd Catrin M. S. Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant: “Gobeithio bod pawb wedi mwynhau’r digwyddiadau a drefnwyd ac wedi profi ychydig o'r wefr o ddilyn peldroed, o gymdeithasu yn y Gymraeg, ac o ymgymryd â gweithgareddau diwylliannol y Cardis.

Mae ymgyrch ein tîm pêl-droed wedi bod yn un sydd wedi ein hysgogi a'n hysbrydoli fel cenedl gyfan ac y mae'r holl weithgareddau amrywiol a drefnwyd yng Ngheredigion yn adlewyrchiad o'n llawenydd o gael rhannu siwrne'r garfan. Ond yn bwysicach yw gwaddol y siwrne honno gan i'r tîm godi'n hyder fel cenedl, cryfhau ynom falchder yn ein Cymreictod, ac ennyn parch at ein hiaith a'n hamrywiol ddiwylliannau.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau sydd i ddod trwy ddilyn Cered: Menter Iaith Ceredigion a Theatr Felinfach ar y cyfryngau cymdeithasol.

02/12/2022