Promenâd Aberystwyth yw’r lle i fod ar ddydd Sul, 12 Awst 2018 mewn Gŵyl sy’n clymu’r môr a’r tir. Mae Gŵyl Fwyd Môr i’r Tir Aberystwyth yn dychwelyd i’r Promenâd gyda mynediad am ddim i fwynhau cynnyrch lleol ac amrywiaeth i ddiddanu’r teulu cyfan.

Bydd y sieff sydd wedi ennill seren Michelin, Gareth Ward o Ynys Hir Restaurant & Rooms wrthi yn arddangos rhai o’i brydiau blasus a bydd Mandy Walters yn dangos beth i’w wneud â chregynbysgod ffres. Baravin bydd eich ysbrydoliaeth i wneud coctels a bydd Coleg Ceredigion yn cyflwyno cogyddion y dyfodol.

Bydd llawer i chi wneud unwaith i chi gyrraedd; y rhan annoddaf bydd penderfynu ble i fynd gyntaf. Ewch i’r stondinau bwyd i flasu caws a gwinoedd lleol ac i fwynhau arogl popeth o baella i bitsa i’ch gwneud yn llwglyd. Bydd pysgod lleol, llysiau a chig organig yn ogystal â chacennau a bwydydd arall hefyd ar gael.

Bydd go-certi ac acwariwm â physgod lleol yn diddanu’r plant yn ogystal â Cragen, y Bwystfil Môr a’i siwrnai blastig. Gwnewch yn siŵr hefyd i ymweld â Sioe Deithiol y Moroedd Byw ac i gael tro mewn Llong-Hir.

Bydd ystod o stondinwyr yn cynnig amrywiaeth anferth o gynnyrch lleol o safon a bydd hefyd nifer o stondinau yn gwerthu deunyddiau ar wahân i fwyd.

Cynhelir yr Ŵyl ar y Promenâd rhwng 10yb a 5yh. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Facebook, ‘Aberystwyth Sea2shore Food Festival 2018’ neu ffoniwch 01545 574162.

25/07/2018