Mae cyflwyno'r gwasanaeth casglu gwastraff newydd yng Ngheredigion bron wedi'i gwblhau. Fel rhan o'r broses gyflwyno, mae'r darganfyddwr cod post ar-lein poblogaidd wedi'i adnewyddu ac mae bellach ar gael i'w weld trwy wefan y cyngor www.ceredigion.gov.uk.

Yn ogystal â darparu gwybodaeth am y casgliadau nesaf sydd wedi ei hamserlennu o'r gwahanol fathau o wastraff, mae calendr gwastraff ar gael sy’n berthnasol i'ch llwybr casglu.

Ar gael hefyd mae dolen i'r dudalen gwybodaeth am amhariadau ar gasglu gwastraff. Mae hyn yn darparu manylion am unrhyw lwybrau sydd wedi’u heffeithio ar unrhyw ddiwrnod penodol, y rhesymau pam a beth yw'r cyngor i drigolion.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai, “Gwneir pob ymdrech i ddarparu casgliadau gwastraff wedi'u hamserlennu fel yr hysbysebwyd. Yn anffodus, ac yn anochel, gall nifer o resymau effeithio ar ein gallu i gyflawni casgliadau. Mae hyn yn arbennig o wir yn ystod gwyliau cyhoeddus ac unrhyw gyfnodau o dywydd gaeafol.

Mewn ymateb i hyn, rydym yn rhoi nifer o fesurau ar waith i rannu gwybodaeth amserol a defnyddiol gyda'r cyhoedd ynghylch casgliadau gwastraff.

Dw i’n gobeithio y caiff pawb amser gwych dros gyfnod y gwyliau a'u bod yn cofio gwneud defnydd llawn o'r gwasanaethau gwastraff a ddarperir gan y cyngor. Mae hyn er mwyn sicrhau yr ymdrinnir ag ef yn y ffordd orau bosibl o safbwynt amgylcheddol ac ariannol.

Hoffwn hefyd achub ar y cyfle i estyn diolch diffuant i'r staff hynny a fydd yn gweithio yn ystod y gwyliau.”

20/12/2019