Ar 16 Hydref 2020, yn Llys Ynadon Abertawe, rhoddwyd dyfarniad ynghylch yr apêl yn erbyn gwrthod adnewyddu trwydded bridio cŵn i David Jones ac Eleri Jones o Benwern, Capel Dewi, Llandysul. Roedd hyn yn dilyn gwrandawiad deuddydd a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth ar 1 a 2 Hydref 2020.

Clywodd y Llys sut yr oedd swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion wedi ceisio gweithio gyda'r sefydliad bridio cŵn i wella safonau, ond ar ôl sawl cyfle roeddent wedi methu â diwallu’r safonau gofynnol a ddisgwylir er mwyn sicrhau lles yr anifeiliaid. Canfu'r ymweliadau nad oedd Mr a Mrs Jones yn gallu dangos unrhyw gofnodion bridio cŵn, ac nad oeddent wedi trefnu archwiliadau iechyd blynyddol gyda milfeddyg. Pan gynhaliwyd archwiliadau gan eu milfeddygon eu hunain fe ddaethon nhw o hyd i nifer o gyflyrau etifeddol ar y cŵn, a chanfuwyd na ddylid bridio’r cŵn. Canfu adroddiad arall gan filfeddyg o fis Mai 2019 fod cŵn yn dioddef o draed a chlustiau clymog, llau, systiau rhwng bysedd eu traed, a bod yr adargwn melyn (golden retrievers) yn dioddef o bryder.

Gweithiodd swyddogion Lles Anifeiliaid o Dîm Diogelu'r Cyhoedd yr Awdurdod Lleol yn galed i ddelio â'r materion a nodwyd, a lleihau nifer y cŵn ar y safle o 86 i 40 ar drwydded gyfyngedig o 3 mis i wella safonau. Fodd bynnag, yn ystod ymweliad ar 12 Tachwedd 2019, canfu'r Swyddogion Lles Anifeiliaid ynghyd â Milfeddyg nad oedd y safonau wedi gwella'n ddigonol. Roedd y cofnodion bridio yn parhau i fod yn wael iawn, gan olygu na ellid asesu’r modd y rheolir bridio, gan arwain at risg o fridio dan oed a bridio fwy nag unwaith yn yr un flwyddyn. Nid oedd tystiolaeth bod y cŵn wedi cael eu brechu, nac unrhyw dystiolaeth o gymdeithasoli’r cŵn bach a gynhyrchir. Nid oedd gan adargi a oedd â chŵn bach 3 wythnos oed unrhyw wres a chofnodwyd mai 9⁰C oedd tymheredd yr aer, ac roedd nifer o gŵn heb eu dogfennu a heb ficrosglodion.

Wrth grynhoi, nododd y Barnwr er bod yr Awdurdod Lleol yn darparu cyngor a chymorth, nid yw hyn yn tynnu sylw oddi ar y ffaith mai’r bridwyr cŵn eu hunain sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r amodau ar eu trwydded. Derbyniodd y bu gwelliannau ar y safle ond teimlai mai byrhoedlog fyddai’r rhain, ac nad oeddent wedi ymrwymo adnoddau i’r fenter yn llawn, a byddai hyn yn peryglu lles anifeiliaid yn ddifrifol. 

Gwrthododd y Barnwr Dosbarth yr apêl a chefnogodd benderfyniad yr Awdurdod Lleol i beidio ag adnewyddu'r drwydded bridio cŵn. Dyfarnodd gostau o £4000 i'r Awdurdod Lleol hefyd.

20/10/2020