Gwobrwywyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Tony Hawkins yn flaenorol o Landysul mewn seremoni a gynhaliwyd ar 16 Mawrth. Gwobrwywyd y fedal iddo am wasanaethau gwirfoddol i bobl anabl yng Ngheredigion.

Cyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig gan Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yn Nhyfed.

Ar ôl derbyn ei Fedal Ymerodraeth Brydeinig, dywedodd Mr Hawkins, “Dw i’n hynod o falch fy mod wedi derbyn yr anrhydedd mawr hwn ac i rannu’r diwrnod gyda fy nheulu a’n ffrindiau a fynychodd y seremoni.”

Gwobrwyir Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i bobl sydd wedi gwneud cyfraniad estynedig o bwys yn eu cymuned.

 

11/04/2018