Symudwyd yr holl wersi ffurfiol ac anffurfiol ar-lein mewn ymateb i her epidemig y coronafirws.

Gyda nifer fawr o staff Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio o adref, aethpwyd ati i arloesi’r dull o ddysgu Cymraeg a chefnogi dysgwyr.

 

Daeth dysgu wyneb yn wyneb i ben yng Ngheredigion ddiwedd mis Mawrth. Aeth Dewi Huw Owen, Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith a thîm Dysgu a Datblygu’r Cyngor ati i ddatblygu Cynllun Gweithredu a fyddai’n sicrhau parhad y dosbarthiadau yn nhymor yr haf. 

Ailgychwynnodd y dosbarthiadau ar 4 Mai ar-lein gan ddefnyddio’r rhaglen ‘Zoom’. Fe wnaeth hyn alluogi 63 o aelodau o staff y Cyngor i ddychwelyd i’w hastudiaethau Cymraeg dwys wythnosol ar lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd, ac Uwch.

Mae adborth y dysgwyr i’r trefniadau newydd wedi bod yn galonogol iawn. Fe nododd un myfyriwr lefel Canolradd, “Dwi wedi mwynhau mynd yn ôl i’r dosbarthiadau Cymraeg, achos mae e wedi rhoi’r cyfle i fi i wella fy sgiliau iaith Gymraeg. Mae ‘Zoom’ yn grêt achos does dim rhaid i ni fod yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y cloi mawr. Mae e’n dal i deimlo fel tasen ni yn y dosbarth, a gallwn ni wneud popeth ‘dyn ni fel arfer yn ei wneud yn y dosbarth.”

Mae darpariaeth ddysgu anffurfiol rhaglen Cymraeg Gwaith y Cyngor hefyd wedi dychwelyd ar ‘Zoom’. Bob dydd Gwener ers 29 Mai mae’r Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith wedi rhedeg Clwb Cinio ar-lein. Dyma gymdeithas sgwrsio sy’n rhoi’r cyfle i’r staff i ymarfer yr iaith a ddysgont yn y dosbarthiadau ffurfiol mewn cyd-destun anffurfiol.

Mynychir y Clwb gan gyfartaledd o 12 myfyriwr yn wythnosol. Nododd un myfyriwr lefel Uwch, “Diolch yn fawr i Gyngor Sir Ceredigion am ei gwneud hi’n bosibl i ni barhau i ddysgu’r Gymraeg yn ystod Covid 19. Dwi’n mwynhau’r dosbarthiadau a’r Clwb Cinio – dwi’n gallu astudio, ymarfer, a chwrdd â fy nghyd fyfyrwyr, a chael hwyl wrth wneud hynny.”

Gan ymateb i lwyddiant symud y ddarpariaeth Cymraeg Gwaith ar-lein, dywedodd Carys Morgan, Swyddog Polisi’r Gymraeg y Cyngor, “Rydym yn hapus iawn bod y ddarpariaeth Cymraeg Gwaith i staff Ceredigion yn parhau ar-lein er gwaethaf epidemig y coronafirws. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch iawn o’r bartneriaeth yr ydym wedi’i ddatblygu â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol drwy’r rhaglen Cymraeg Gwaith. Drwy gydweithredu, rydym yn gallu parhau â’n hymdrechion i ddarparu ystod o gyrsiau ar-lein a phrofiadau dysgu sydd wedi’u teilwra’n arbennig at anghenion ein gweithle. Drwy hyn, rydym yn cefnogi ein staff i ddatblygu eu sgiliau ymhellach er mwyn gallu gweithio’n naturiol yn ddwyieithog.”

Gyda’r cyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol bellach ar waith ar gyfer tymor yr haf mae gwaith eisoes wedi dechrau yn y tîm Dysgu a Datblygu i gynllunio ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf ym mis Medi, a’r cam nesaf yn nhaith iaith y staff.

03/07/2020