Mae gwelliannau wedi cael eu gwneud mewn tafarn yn Aberystwyth ac mae’r Hysbysiad Gwella Mangre a oedd mewn grym bellach wedi dod i ben.

Rhoddwyd yr hysbysiad gwella i dafarn y Vale of Rheidol ar Ffordd y Môr, Aberystwyth, ar 07 Hydref 2020 yn dilyn ymweliad gan swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys.

Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Gwella Mangre, a gyflwynir o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, gan fod y swyddogion wedi gweld nad oedd mesurau digonol wedi cael eu cymryd i gynnal y pellter gofynnol rhwng cwsmeriaid, i gyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb, i ddarparu gwybodaeth i'r rheini yn yr adeilad, ac i gasglu gwybodaeth gyswllt gan yr holl gwsmeriaid.

Mae swyddogion o Dîm Diogelu’r Cyhoedd bellach yn argyhoeddedig fod mesurau cyfredol y dafarn yn bodloni’r rheiny sy’n rhan o’r Rheoliadau sy’n ofynnol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

13/11/2020