Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i dafarn yn Aberteifi wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd yn rhan o reoliadau’r coronafeirws.

Mae Hysbysiad Gwella Mangre wedi cael ei gyflwyno i The Saddlers Arms, Aberteifi gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Yn rhan o’r Hysbysiad Gwella Mangre, mae’n rhaid i'r dafarn sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl yn y fangre, a chymryd camau rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pobl sy’n gorfod aros i ddod i mewn i’r fangre, a mynnu bod cyfarpar diogelu personol (PPE) megis mygydau yn achos staff a chwsmeriaid yn y fangre. 

Mae rhaid i’r dafarn hefyd sicrhau fod manylion cyswllt pob cwsmer yn cael ei gasglu, gan gynnwys enw, rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost, a dyddiad ac amser cyrraedd a gadael, a chadw’r wybodaeth am 21 diwrnod at ddiben o’i ddangos, ar gais, i Weinidog Cymru a swyddog olrhain cysylltiadau.  Rhaid gosod rhwystrau a sgriniau, a newid lleoliad y celfi yn yr ystafell pŵl yng nghefn y fangre.

Bydd yn rhaid i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno erbyn 18:00 ar 22 Tachwedd 2020, a gellir dod o hyd i’r hysbysiad llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, o dan Hysbysiadau Gwelliant a Chau

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor o dan Cefnogi Economi Ceredigion

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

20/11/2020