Nid yw Ysgol Penglais bellach ar restr o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol. Daw'r datblygiad ar ôl ymweliad gan Estyn ym mis Mawrth.

Mae adroddiad Estyn yn tynnu sylw at y ffocws sydd wedi ei ddatblygu ar wella ansawdd addysgu a dysgu yn yr ysgol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar gyflawniad myfyrwyr.

Mae Mair Hughes, Pennaeth Ysgol Penglais, wrth ei bodd gyda chanlyniad yr arolygiad ac ansawdd yr adroddiad. Dywedodd: "Mae holl staff yr ysgol wedi gweithio'n ddiflino i wella safonau addysgu a dysgu, ymddygiad a chynnydd myfyrwyr ym Mhenglais. Rwy'n falch iawn bod yr arolygwyr yn cydnabod yr effaith y mae'r gwaith caled wedi'i chael ar gynorthwyo myfyrwyr i wneud y cynnydd y maent yn ei haeddu.”

“Mae hefyd yn cydnabod y myfyrwyr parchus a gweithgar sydd gennym ym Mhenglais a'r cynnydd da maent yn ei wneud, gyda rhai yn gwneud cynnydd cyflym. Mae'n bleser gweithio gyda'r staff a'r myfyrwyr rhagorol o fewn yr ysgol a byddwn yn parhau i weithio'n galed i sicrhau ein bod yn ysgol hapus, uchelgeisiol a hynod o dda ein gweledigaeth."

Trwy'r gwelliannau, mae myfyrwyr bellach yn gwneud cynnydd addas ac yn ymddwyn yn dda yn yr ysgol. Gwelodd Estyn fod gan athrawon a myfyrwyr berthynas waith da a bod athrawon yn cynllunio'u gwersi'n dda i ennyn diddordeb myfyrwyr yn eu dysgu.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Dysgu. Dywedodd: “Mae hyn yn gamp fawr ac yn dangos bod gwaith caled myfyrwyr a staff ysgol Penglais yn gwella safonau. Rwy'n siŵr y bydd Ysgol Penglais yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol dan arweiniad cryf ac uchelgeisiol.”

Canfu'r arolygwyr bod arweinyddiaeth ar draws yr ysgol wedi gwella gyda systemau cryf bellach yn eu lle sy'n gwneud yn siŵr bod yr ysgol yn gwella yn gyflym. Mae hyn wedi arwain at welliannau yng nghyflawniadau myfyrwyr, safonau ymddygiad a phresenoldeb myfyrwyr.

04/04/2019