Mae'n debyg y byddai waliau ystafell y biliards yn Llanerchaeron yn medru dweud sawl stori pe bai nw’n gallu siarad. Ond mae’n amheus eu bod nhw erioed wedi gweld cwrs hyfforddi peiriant torri porfa yn y fath gymhlethdod o’r blaen. Dyma leoliad y cwrs, a fenthycwyd yn garedig gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am y diwrnod, i’r grŵp a oedd yn cynnwys rhai o wirfoddolwyr ‘Mabwysiadu Llwybr’ Cyngor Sir Ceredigion.

Roedd y cwrs yn ddwys ond yn hwyl. Cafodd ei ariannu gan Dîm Rheoli Amgylcheddol Cyngor Sir Ceredigion sy’n cael ei arwain gan Rachel Mills, a’i redeg gan Andy Bakewell. Treuliwyd y bore yn cyfarwyddo gyda’r peiriannau a dysgu sut i’w cynnal, cyn symud ymlaen i’r gwaith ymarferol gyda’r prynhawn.

Mae gan Rachel, sy’n gweinyddu’r cyllid Ansawdd Amgylcheddol Leol, ogof llawn offer sydd ar gael i’w fenthyg i unrhyw grwpiau cymunedol neu wirfoddolwyr unigol sy’n dymuno’u defnyddio. Mae hyn yn cynnwys holl offer llaw arferol ar gyfer gweithgareddau garddio, ac eitemau mwy arbenigol megis microsgopau USB a Camerâu Llwybr yn ogystal â driliau a chyfarpar codi sbwriel.

Gall offer fel peiriannau torri clawdd a porfa, ac offer chwistrellu yn y bôn, gael eu benthyg i wirfoddolwyr sydd â’r cymwysterau addas. Dyma’r rheswm y mae rhai o wirfoddolwyr y Cynllun Mabwysiadau Llwybr yn derbyn hyfforddiant. Unwaith bod gan y gwirfoddolwyr y tystysgrif yma, byddant yn gallu benthyg y peiriannau wrth Rachel i helpu cynnal a chadw’r llwybrau y maent wedi mabwysiadu, yn ogystal â gwaith cymunedol arall y maent yn rhan ohono.

Mae Jill Lowry yn Swyddog Mynediad Cymunedol sy’n goruchwylio gwirfoddolwyr Cynllun Mabwysiadu Llwybr ar ran Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Fel tîm, rydym yn ddiolchgar iawn i'n holl gwirfoddolwyr am roi o'u hamser i helpu i gadw Hawliau Tramwy yn hygyrch i'r cyhoedd. Rydym hefyd yn ddyledus i Rachel am ei chymorth parhaus i wella sgiliau’r gwirfoddolwyr hynny a benthyca offer i wneud y gwaith yn gywir ac yn ddiogel.”

Mae gan Rachel ychydig o arian bob blwyddyn i gynnal cyrsiau perthnasol i wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol. Mae Rachel yn agored i awgrymiadau am hyfforddiant sy’n berthnasol i’r amgylchedd. Felly, os ydych chi’n cymryd rhan mewn gwaith cymunedol gwirfoddol ac angen hyfforddiant neu fenthyg offer, cysylltwch a Rachel ar 07870 275241 neu trwy e-bost Rachel.Mills@ceredigion.gov.uk

Llun: Rachel gyda’r gwirfoddolwyr yn y cwrs hyfforddi peiriant torri porfa.

10/05/2018