Cyflwynwyd gweledigaeth newydd ar gyfer gwella’r diwydiant cludo nwyddau ar hyd a lled y Gororau a’r Canolbarth er mwyn hybu datblygu economaidd ac effeithlonrwydd trwy lansiad ar ddydd Mercher, 21 Chwefror.

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a Partneriaeth Menter Lleol y Gororau a gomisiynodd y strategaeth newydd, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a chynghorau o’r ddwy ochr o’r ffin. Mae’n cynnwys argymhellion ar gyfer gwella pethau i fusnesau sy’n cludo nwyddau drwy’r rhanbarth, gwella bywydau pobl sy’n byw ar bwys ffyrdd allweddol o ran cludiant, a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. Cyflwynir opsiynau ar gyfer y ffyrdd a’r rheilffyrdd.

Lansio’r strategaeth yn Y Trallwng yw uchafbwynt diweddaraf y bartneriaeth rhwng y naill ranbarth a’r llall, sydd wedi bod yn cydweithio ers 2016. Gan mai proses gydweithredol oedd hon, bu’r gwaith o gomisiynu a datblygu’r strategaeth yn nwylo grŵp llywio oedd yn cynnwys swyddogion o’r naill ochr i’r ffin. Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn bartneriaeth sydd wedi ei chyfansoddi o gyrff cynrychiadol ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yng nghanolbarth Cymru, sef Ceredigion, Powys a de Gwynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Cadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “P’un a ydyn ni’n ystyried rhwydwaith o ffyrdd sy’n rhai un ffrwd yn bennaf, ac effaith hynny ar hyd pob taith a dibynadwyedd; yr effaith y mae cerbydau amaethyddol yn ei gael ar y rhwydwaith; neu’r tagfeydd mawr sy’n digwydd mewn llawer o’n trefi a’n pentrefi ni, mae’r darlun yn un go debyg ar y ddwy ochr o’r ffin. Yn syml iawn, mae cysylltiadau da ar y ffyrdd a’r rheilffyrdd yn hanfodol i’n busnesau ni, a hefyd o ran twf yn y dyfodol ar hyd a lled y Canolbarth a’r Gororau.”

Os gweithredir y cynlluniau’n llawn, rhagwelir y gallai’r strategaeth ddod â buddion gwerth o leiaf £149 miliwn i weithredwyr cerbydau nwyddau trwm. Gellid gwneud hynny drwy weithredu cyfres o welliannau ar y priffyrdd gyda’r nod o greu mwy o gyfleoedd i oddiweddyd yn ddiogel, lliniaru ar dagfeydd ac ailwampio rhai mannau allweddol fel y gall cerbydau nwyddau trwm 44 tunnell gyrraedd pob rhan o’r rhwydwaith cludiant.

Parhaodd y Cynghorydd ap Gwynn trwy ddweud, “Roedd hi’n gwneud perffaith synnwyr, felly, i weithio ar y cyd ar y strategaeth hon, gan ymgynghori â busnesau megis cwmnïau cludo nwyddau a’n cymunedau lleol i feithrin gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n rhwystro twf economaidd yn y ddwy ardal, a’r ffyrdd y gallwn gydweithio i oresgyn y rhwystrau hynny.”

Yn ystod y drefn ymgynghori cafwyd cyfraniadau gan amrywiaeth helaeth o fusnesau a chynghorau lleol drwy arolygon ar-lein, gweithdai i fusnesau yn Llwydlo a’r Drenewydd, a chyfweliadau dros y ffôn â chyflenwyr nwyddau, cwmnïau cludiant ffyrdd, rheolwyr seilwaith a gwneuthurwyr polisïau.

Gellir gweld copi o’r Strategaeth Cludo Nwyddau Gororau a Chanolbarth Cymru drwy fynd i: http://www.tracc.gov.uk/index.php?id=137&L=1 neu http://www.powys.gov.uk/cy/democratiaeth/sut-maer-cyngor-yn-gweithio-mewn-partneriaeth/tyfu-canolbarth-cymru/

Llun: O’r chwith i’r dde: (1) Y Cynghorydd Phillip Price, Cyngor Swydd Henffordd (2) Alun Jones o gwmni T. Alun Jones Cyf (3) Paul Hinkins, Is-gadeirydd Partneriaeth Menter Lleol Y Gororau (4) Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Cadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion (5) Rhodri Griffiths, Prif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolbarth a De-orllewin Cymru (6) Rosemarie Harris, Is-gadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Powys.

23/02/2018