Ar 17 Chwefror 2022, gweithredodd Tîm Ymchwilio Rhanbarthol Safonau Masnach Cenedlaethol a swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion nifer o warantau chwilio fel rhan o ymgyrch i fynd i’r afael â bridio cŵn yn anghyfreithlon yng Ngorllewin Cymru gan weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys, yr RSPCA a'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.
Mae tîm ymchwilio rhanbarthol Safonau Masnach yn gweithio ledled Cymru fel rhan o ymgyrch genedlaethol i helpu gwasanaethau Safonau Masnach awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r gweithgarwch troseddol sy’n ymwneud â bridio cŵn yn anghyfreithlon.
Ni fydd natur ehangach yr ymchwiliad yma yn cael ei ddatgelu ar hyn o bryd ond bydd cyfathrebiadau cyfryngau pellach yn cael eu rhyddhau yn y dyfodol agos.
Cefnogir gwaith y tîm rhanbarthol gan gyllid Llywodraeth Cymru a ddyrennir i Safonau Masnach Cymru i gyflawni prosiect cenedlaethol i fynd i’r afael â phroblem bridio cŵn yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Os oes gennych wybodaeth am y materion canlynol mae croeso i chi roi gwybod i ni, yn ddienw os mai dyna yw eich dymuniad:
• Unrhyw faterion hanesyddol yn ymwneud â bridwyr cŵn a phroblemau sŵn
• Unrhyw gudd-wybodaeth am arferion amheus yn ymwneud â bridio cŵn
• Unrhyw bersonau y credwch a allai fod yn gysylltiedig
Anfonwch unrhyw wybodaeth mewn e-bost at wtsintel@newport.gov.uk a bydd eich gwybodaeth yn cael ei hystyried yn gyfrinachol.
17/02/2022