Mewn ymateb i adeilad Penweddig yn cael ei ddefnyddio i ffurfio rhan o Ysbyty Enfys Ystwyth, mae cynlluniau wrth gefn wedi’u sefydlu pe bai disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yn raddol cyn mis Medi 2020.

I’r perwyl hwnnw, yn garedig iawn mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig adeiladau a chyfleusterau pwrpasol inni fedru addysgu ynddynt tan ddiwedd naturiol Tymor yr Haf, sef Gorffennaf 2020.

Rydym wedi cytuno mai gofod ar Gampws Penglais fydd ar gael i ni, ac rydym nawr yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn cwblhau’r trefniadau ymarferol o ran sut gall hyn weithio, a hynny o fewn cyfyngiadau’r Llywodraeth.

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg: “Rydym yn falch iawn bod un o’n hysgolion yn barod i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cyfnod o angen mawr. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio na fydd angen defnyddio’r lleoliad fel ysbyty ac y bydd ein hymdrechion i reoli’r haint yn ddigon effeithiol. Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am eu haelioni a’u perthynas waith wych. Os bydd angen, bydd y cyfleusterau hyn yn sicrhau y bydd disgyblion yn gallu derbyn addysg mewn amgylchedd diogel a phriodol.”

Nid oes unrhyw gyhoeddiad wedi’i wneud ynglŷn â disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol. Pan ddaw y cyhoeddiad hwnnw, bydd y Cyngor yn gweithredu yn unol â’r canllawiau ar y pryd. Yng nghyhoeddiad y Gweinidog Addysg yr wythnos ddiwethaf, nodwyd y byddai disgyblion yn dychwelyd i ysgolion yn raddol ac nad oes unrhyw ddyddiad wedi’i bennu ar gyfer hyn.

Nid yw’r Cyngor yn gwybod eto a fydd angen y trefniadau wrth gefn hyn. Fodd bynnag, mae’r cynlluniau hyn wedi’u sefydlu er mwyn sicrhau y bydd grwpiau o ddisgyblion Penweddig yn gallu dychwelyd i’w haddysg ffurfiol ar yr un pryd â phob disgybl tebyg yn y sir. Mae’r Cyngor yn ddiolchgar i’r Brifysgol am eu parodrwydd i gydweithio yn y cyfnod digynsail hwn.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cadarnhau na fyddant yn defnyddio adeilad Penweddig ar ôl cyfnod yr haf. Bydd disgyblion yn gallu dychwelyd i safle Penweddig yn ddiogel ym mis Medi 2020 ar ôl proses ddatgomisiynu a glanhau drylwyr a fydd yn digwydd dros sawl wythnos cyn dechrau tymor yr hydref.

Meddai Andrea James, Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch o allu cynorthwyo’r ysgol a’r sir. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gyfraniadau gan y Brifysgol, o ran adnoddau ac arbenigedd, at yr ymdrechion i fynd i’r afael â’r feirws o fewn ein cymuned, yn ogystal ag yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn yr amseroedd heriol iawn hyn, mae ein rôl ganolog o fewn ein cymuned yn bwysicach nag erioed.”

06/05/2020