Mae un o drigolion Ceredigion wedi dechrau ar lwybr gyrfa newydd ar ôl cael cymorth gan Gweithffyrdd+.

Bu’n rhaid i Mary Davies, sy’n 64 mlwydd oed, ddewis rhwng ei busnes a’i rôl fel prif ofalwr i’w mam oedrannus a chynyddol fregus.

Roedd Mary wedi dechrau ei busnes glanhau domestig ei hun ac wedi’i ddatblygu hyd nes oedd ganddi ddeg o gwsmeriaid ffyddlon. Fodd bynnag, fel llawer o bobl sydd â chyfrifoldebau gofal teulu, gwrandawodd Mary ar ei chalon a rhoi’r gorau i’w busnes.

Gan fod Mary bob amser yn llawn cymhelliant i gynllunio ar gyfer y dyfodol, astudiodd gwrs hyfforddi ‘Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor’ o’r cartref. Roedd hyn yn foddhaol ond nid oedd Mary yn teimlo ei fod yn ddigon i'w pharatoi ar gyfer byd gwaith.

Cysylltodd Mary â thîm Gweithffyrdd+ yng Ngheredigion i gael cymorth. Mae Gweithffyrdd+ yn wasanaeth sy'n helpu pobl di-waith i gael cymorth wyneb yn wyneb ac ar-lein wedi’i ariannu, profiad gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli a swyddi.

Y mentor a gafodd ei haseinio i weithio gyda Mary ar sail un i un oedd Wendy Fitzpatrick. Aeth Wendy ati i helpu Mary i nodi ei hanghenion hyfforddi a oedd yn canolbwyntio ar gael yr wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddio cyfrifiaduron a chyfryngau digidol.

Yna daeth Wendy o hyd i gwrs hyfforddi TG a oedd yn lleol i Mary ac y gallai Gweithffyrdd+ ei ariannu. Roedd y ‘Cwrs Trwydded Gyrwyr Cyfrifiaduron Ewropeaidd’ (ECDL) a ddarparwyd gan Dysgu Bro, sef gwasanaeth gan Gyngor Sir Ceredigion, wedi gwneud argraff gadarnhaol ar Mary.

Dywedodd Mary Davies: “I ddechrau, roedd mynychu cwrs cyfrifiadurol gyda’r hwyr yn Aberteifi a gadael mam am ychydig o oriau yn gam mawr, nid oeddwn wedi gwneud hynny ers chwe blynedd. Mae gofalu yn peri straen ac yn effeithio ar sut rydych yn teimlo. Prin oedd yr amser i mi fy hun. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf roeddwn wedi dod yn fwy a mwy ymwybodol o'r dyfodol a'r hyn y byddwn yn ei wneud. Roedd y cwrs ECDL yn fuddiol ar sawl lefel. Fe ddysgodd sgiliau newydd mawr eu hangen i mi, a thrwy orfod bod mewn lle ar amser a chymysgu â phobl newydd, cefais brofiad o amgylchedd gwaith. Dechreuais ymlacio, rheoli’r straen a dod yn hyderus o ran fy nyfodol. Ni allaf ddiolch digon i Gweithffyrdd+”.

Nod Mary yw defnyddio ei sgiliau TG newydd i'w helpu i ddysgu Saesneg fel iaith dramor o gartref, ac mae Gweithffyrdd+ yn parhau i’w chefnogi.

Mae Gweithffyrdd+ yng Ngheredigion yn cael ei staffio gan swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion ac mae wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, ffoniwch Gweithffyrdd+ yng Ngheredigion i sgwrsio ag un o’n mentoriaid ar 01545 574193, neu ar gyfer ardal arall ewch i wefan Gweithffyrdd+.

25/06/2020