Mae Amgueddfa Ceredigion wedi cyhoeddi ei rhaglen o weithgareddau yn ystod gwyliau’r hanner tymor, sy'n rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn theatr a chomedi.

Cefnogir y rhaglen gan gynllun Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth Cymru.

Rhwng 10am a 4pm ddydd Mercher 23 Chwefror, bydd Lucy Gough a Stephanie Tillotson yn cynnal dau weithdy rhad ac am ddim yn Amgueddfa Ceredigion i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed o’r enw ‘Patching the Whole’. Yn y gweithdy cyntaf, bydd y bobl ifanc yn helpu i ysgrifennu geiriau ar gyfer drama Lucy sef Edau Bywyd. Yn yr ail weithdy, byddant yn creu perfformiad 10 munud o hyd ac yn cymryd rhan ynddo. Mae Lucy wedi ysgrifennu ar gyfer radio, teledu a llwyfan, ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau ysgrifennu. Mae hi’n dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd. Mae Stephanie, sy’n ddramodydd ac yn fardd cyhoeddedig, wedi gweithio ym maes radio, theatr a theledu.

Rhwng 10am a 4pm ddydd Iau 24 Chwefror, bydd y gomediwraig Eleri Morgan yn cynnal gweithdy comedi rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 7 a 14 oed o’r enw ‘Quick Comedy for Kids’. Yn ystod y gweithdy yn Amgueddfa Ceredigion, bydd Eleri yn datgelu nifer o gynghorion defnyddiol ynglŷn â bod yn gomedïwr neu’n gomediwraig stand-yp. Bydd y sesiwn yn llawn hwyl a gemau a bydd cyfle i’r bobl ifanc gael cynnig arni ar y llwyfan. Mae Eleri yn awdur ac yn gomediwraig stand-yp sydd wedi’i magu yn Aberystwyth a bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi perfformio mewn gigs ledled y DU, gan gynnwys Komedia (Caerfaddon a Brighton); Glee Club (Caerdydd a Birmingham); Gŵyl Fringe Caeredin; a Gwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth. Roedd hi’n gymeriad rheolaidd yn y gyfres gomedi ‘Tourist Trap’ ar y BBC a chyrhaeddodd y rownd gynderfynol yng nghystadleuaeth ‘New Comedian of the Year 2021’ y BBC. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer ‘Mock the Week’ (BBC1) a rhaglenni ar S4C a BBC Radio 4.

Gyda buddsoddiad ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun Gaeaf Llawn Lles yn annog plant a phobl ifanc 0-25 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol y tu allan i ddysgu ffurfiol.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb ar gyfer Porth Ceredigion, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd: “Ar ôl cyfnod mor heriol, newyddion braf yw bod Amgueddfa Ceredigion, drwy’r cynllun Gaeaf Llawn Lles, yn gallu darparu’r gweithgareddau cyffrous hyn i’n pobl ifanc. Bydd yn eu galluogi i ail-ymgysylltu â chymdeithas, ailgysylltu â ffrindiau, ac ailddarganfod eu hobïau wrth i’r cyfyngiadau barhau i gael eu llacio.”

Mae'r ddau weithdy am ddim, ond mae archebu lle yn hanfodol. Anfonwch e-bost at sarah.morton@ceredigion.gov.uk i archebu lle. 

Cadwch lygad allan am fwy o weithdai yn yr amgueddfa ym mis Mawrth!

11/02/2022