Gan fod nifer yr achosion o’r Coronafeirws yn cynyddu’n sydyn yng Ngheredigion, penderfynwyd cau pob canolfan hamdden, pwll nofio a chyfleuster a redir gan y Cyngor fel mesur rhagofalus.

Gwnaethpwyd y penderfyniad anodd gan Grŵp Rheoli Aur Cyngor Sir Ceredigion oherwydd bod canolfannau hamdden a chyfleusterau cysylltiedig yn lleoliadau risg uchel o ran trosglwyddo’r feirws. Mae’r risg o drosglwyddo’r feirws yn uchel. Am y rheswm hwnnw, cymerwyd camau yn awr i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid, ein staff, a’r gymuned ehangach.

Bydd y canolfannau hamdden, y pyllau nofio a’r cyfleusterau canlynol yn cau ar unwaith:

  • Canolfan Hamdden Aberaeron
  • Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan (yr holl gyfleusterau)
  • Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan
  • Neuadd Chwaraeon Penglais
  • Cae Pob Tywydd Aberteifi
  • Cae Pob Tywydd Synod Inn

Ni fydd cyfleusterau’r Cyngor ar gael i’w defnyddio am y tro, gan gynnwys caeau chwarae, caeau chwarae ysgolion a chaeau pob tywydd.

Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad hwn, oherwydd cydnabyddir y cyfraniad pwysig y mae bod yn gorfforol egnïol yn ei wneud i lesiant dinasyddion y sir. Fodd bynnag, mae gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau bod lledaeniad y coronafeirws yn cael ei atal lle bynnag y bo modd.

Un ffordd o atal y coronafeirws rhag lledaenu yw cyfyngu ar nifer ein cysylltiadau cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi cydweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau addysgol eraill er mwyn sefydlu ‘swigod’ ymhlith dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn er mwyn atal disgyblion o wahanol grwpiau rhag dod i gysylltiad agos â’i gilydd. Rydym hefyd wedi atal staff sydd fel arfer yn gweithio mewn mwy nag un ysgol/safle rhag parhau i wneud hynny. Fel arfer, mae plant a phobl ifanc o wahanol oedrannau, o wahanol ysgolion a sefydliadau addysgol eraill yn dod at ei gilydd i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, clybiau a chymdeithasau mewn Canolfannau Hamdden sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor. Er ein bod yn cydnabod bod hyn ynddo’i hun yn beth cadarnhaol, yng nghyd-destun y coronafeirws mae’n tanseilio’r camau a gymerwyd gan y sefydliadau hyn i atal y disgyblion rhag cymysgu lle bynnag y bo modd.

Mae’r Cyngor yn estyn ei ddiolch diffuant i staff y Gwasanaeth Hamdden. Maent wedi gwneud popeth o fewn eu gallu ac wedi rhoi pob mesur angenrheidiol ar waith i sicrhau gwasanaeth diogel a chroesawgar i gwsmeriaid. Diogelwch y staff a'r cwsmeriaid yw'r brif flaenoriaeth, a gan fod risg uchel y bydd y feirws yn cael ei drosglwyddo, yr opsiwn mwyaf diogel i bawb dan sylw yw cau am y tro.

Bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu’n barhaus yn seiliedig ar nifer yr achosion yn y sir.

Diolch am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

28/09/2020