Mae gwasanaethau gofal cartref ledled Ceredigion yn wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i'r pandemig.

Er bod y cyfyngiadau wedi llacio yng Nghymru, mae’r pandemig yn parhau i gyflwyno anawsterau o ran darparu gwasanaethau gofal cartref i oedolion ar gyfer y rheiny sydd eu hangen.
Mae’r sefyllfa yng Ngheredigion yn adlewyrchu problemau rhanbarthol a chenedlaethol lle mae staff gofal cymdeithasol ac iechyd wedi syrffedu dros gyfnod estynedig gan arwain at nifer yn dewis gadael y sector.
Yng Ngheredigion a ledled Cymru, mae’r galw am gymorth ymarferol a gofal personol wedi cynyddu’n gyflym tra bo gallu’r Cyngor, asiantaethau partner a darparwyr lleol o dan bwysau mawr. Yn anffodus, mae hyn yn effeithio ar barhad ac argaeledd y gwasanaethau.

Mae staff y Cyngor yn gweithio’n ddiflino ar y cyd â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i fynd i'r afael â’r anawsterau cyfredol. Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i flaenoriaethu oedolion sydd mewn perygl a’r rheiny sydd angen gofal a chymorth hanfodol fwyaf.

Cysylltir â defnyddwyr y gwasanaeth i drafod eu pecynnau cymorth ac fe’u hanogir i ystyried opsiynau hunangymorth a chymorth teulu a chymuned lle bo hynny’n bosibl.

Mae ymateb Ceredigion i argyfwng COVID-19 wedi bod yn drawiadol gydag unigolion, teuluoedd, cymunedau a gwasanaethau lleol yn cydweithio i wneud ymdrechion estynedig a chynaliadwy i gadw pobl fregus yn ddiogel.

Gyda’n gilydd, gallwn fod yn hyderus y byddwn oll yn parhau i fynd i'r afael â’r anawsterau cyfredol ac yn ymrwymo i wneud ein gorau i gefnogi’r unigolion mwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth amlwg i'r Cyngor yn ystod y pandemig a bydd yn parhau i fod felly.

Os hoffech wybodaeth neu gyngor ar eich llesiant, neu os hoffech wybod sut y gallwch helpu rhywun arall, ewch i wefan Dewis Cymru: https://www.dewis.wales/ Mae mwy o wybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth yn y sector gofal hefyd ar gael ar wefan Gofalwn Cymru: https://gofalwn.cymru/

Os ydych yn poeni am eich diogelwch neu eich llesiant, gallwch ffonio’r Cyngor ar 01545 574000.

10/09/2021