Dathlwyd Wythnos Gwaith Ieuenctid gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion rhwng 22 a 28 Mehefin, sef wythnos a neilltuwyd i ddathlu gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Yn anffodus, oherwydd y pandemig presennol digwyddodd llawer o'r dathliadau yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid ar-lein. Dosbarthwyd gwobrau drwy gydol yr wythnos lle bu Gweithwyr Ieuenctid yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyflawniadau pobl ifanc ar draws y sir. Dosbarthwyd y gwobrau canlynol:

Gwobr Ymrwymiad:
Clwb Ffitrwydd Ysgol Bro Teifi
Brandon Jones

Gwobr Cyfranogiad:
Broadie Gadsby

Datblygiad Personol:
Cian Taylor

Cyflawniad Arbennig:
Josh Johnson

Gwobr Cyfraniad:
Chelsea Jones
Zac Evans

Gwobr Ymroddiad:
Levi Evans

Gwobr Ymrwymiad a Chyfranogiad:
Ewan Evans

Roedd dathliadau eraill a gynhaliwyd gan y gwasanaeth yn ystod yr wythnos yn cynnwys digwyddiadau ymhob clwb ieuenctid rhithiol, blogiau a fideos dyddiol wedi’u llwytho ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y gwasanaeth.

Dywedodd Gwenllian Evans, Rheolwr Gwaith Ieuenctid dros dro Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: "Er bod eleni ychydig yn wahanol i'r ffordd y byddem ni fel arfer wedi dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid, rydym yn awyddus i werthfawrogi prif bwrpas Gwaith Ieuenctid, sef cydnabod a chanmol cyflawniadau pobl ifanc, ynghyd â rhoi cyfleoedd amrywiol iddynt ddatblygu'n gyfannol a helpu i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol'.

"Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed mewn amrywiaeth o leoliadau anffurfiol, drwy ddarpariaethau wedi'u targedu a darpariaethau cyffredinol. Yn ystod y pandemig hwn, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi addasu ei darpariaeth i gefnogi pobl ifanc drwy weithgareddau rhithiol, cymorth ar-lein drwy Facebook, Twitter ac Instagram a thrwy wneud galwadau ffôn wythnosol".

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod y Cabinet â Chyfrifoldeb am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cefnogaeth ac Ymyrraeth: "Roedd yn wych gweld cynifer o weithgareddau yn parhau i gael eu cynnal gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Ngheredigion. Mae Gwaith Ieuenctid yn cynnig cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc sy'n tyfu’n oedolion ac yn aml gall fod yn achubiaeth i rai. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn dathlu gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid a Gwaith Ieuenctid yn genedlaethol."

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael gwybod am ba gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar @GICeredigionYS, y wefan www.giceredigionys.co.uk neu e-bostiwch y tîm ar youth@ceredigion.gov.uk

29/06/2020