Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cyflawni’r wobr arbennig Marc Ansawdd Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Lansiodd Llywodraeth Cymru y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ym mis Hydref 2015 i ddarparu asesiad cadarn, annibynnol, allanol o ansawdd a pherfformiad sefydliadau sy'n darparu gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Yn 2017, dyfarnwyd y Wobr Efydd i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ac maent bellach wedi symud ymlaen i ennill y Marc Ansawdd Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Dywedodd y tîm o aseswyr fod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi creu argraff arnynt yn ystod yr ymweliad a pha mor dda yr oedd y safonau wedi’u cyflawni.


Nododd yr adroddiad terfynol fod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cynnig Gwaith Ieuenctid o ansawdd uchel ar draws 16 maes craidd, gan gynnwys; Y Cwricwlwm, Cynnwys Pobl Ifanc, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Datblygu'r Gweithlu.

Nododd yr adroddiad fod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn bartner canolog ac allweddol i ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc yng Ngheredigion. Roeddent yn cydnabod bod pobl ifanc yn chwarae rhan lawn yn natblygiad y gwasanaeth, a bod y gwasanaeth wedi sefydlu ffordd o feddwl sy’n flaengar wrth ymwneud â phobl ifanc gan sicrhau eu bod yn ynghlwm ym mhob lefel o strwythur gwleidyddol y cyngor.

Un o’r cryfderau allweddol a nodwyd yn yr adroddiad oedd bod gan y sefydliad gwricwlwm cryf ac yn cynnig Gwaith Ieuenctid sydd â dulliau cyfannol clir, sy'n gynhwysol ac amrywiol. Mae enghreifftiau ardderchog o gydweithio, gyda Gwaith Ieuenctid yn ymagwedd ganolog mewn datblygu lles ar draws y Gwasanaeth.

Dywedodd Catrin Miles, Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, "Mae ennill y Marc Ansawdd Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn gyflawniad eithriadol i'r Gwasanaeth. Mae'n gydnabyddiaeth dda am ymrwymiad a gwaith caled y tîm wrth gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifanc, gan annog pob person ifanc i gyrraedd eu llawn botensial. Mae'r wobr hon yn cadarnhau bod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn parhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd rhagorol i bobl ifanc bob blwyddyn.”

21/02/2019