Dyfarnwyd Marc Barcud y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar 22 Mehefin 2020 am eu gwaith yn ymwneud â chyfranogiad pobl ifanc.

Dyfernir y Marc Barcud, a weinyddir gan Blant yng Nghymru ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, i wasanaethau sydd wedi dangos eu bod yn cyflawni yn ôl pob un o’r saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol.
Mae cyfranogiad yn golygu galluogi plant a phobl ifanc i leisio eu barn ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw yn eu bywydau bob dydd. Ategir hyn gan Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Drwy lwyddo i ennill y Marc Barcud, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dangos bod ganddynt broses, ansawdd a phrofiad lefel uchel yn gysylltiedig â'r holl waith sy'n ymwneud â chyfranogiad pobl ifanc.
Dywedodd Gwion Bowen, Rheolwr Gwaith Ieuenctid Dros Dro Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Fel gwasanaeth, rydym yn falch iawn o dderbyn y marc barcud ar gyfer cyfranogiad gan fod hyn yn pwysleisio ein hymrwymiad i wrando ar safbwyntiau pobl ifanc ac ymateb iddynt. Ein hethos fel gwasanaeth yw cefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial, ac rydym wastad wedi cydnabod ac ystyried Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth ddarparu ein gwasanaeth.

Mae ein gwahanol fentrau, gan gynnwys Cyngor Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion, Panel Rhaglen Dewis, Prosiect Inspire, Darpariaeth Mynediad Agored a Rhaglenni Gweithgareddau yn ystod Gwyliau yn darparu llwyfannau i bobl ifanc yng Ngheredigion gyfranogi. Felly, mae derbyn Marc Barcud y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol am yr holl waith caled yn ganlyniad cadarnhaol dros ben i’r gwasanaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod y Cabinet â Chyfrifoldeb am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: "Llongyfarchiadau mawr iawn i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar dderbyn y Marc Barcud am eu gwaith clodwiw gyda phlant a phobl ifanc Ceredigion. Mae’r cyfleoedd a gynigir i ieuenctid y Sir yn amrywiol a chyfoethog a’r arlwy wedi cael ei addasu’n effeithiol yn ystod cyfnod y “Clo mawr” oherwydd Covid-19.

Mae’n hyfryd o beth bod llwyddiant a gwaith caled pawb sy’n ymwneud â’r Gwasanaeth yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Rydym yn falch dros ben o bob un ohonoch ac yn ymfalchïo yn eich gwobr.”

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael gwybod am ba gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar @GICeredigionYS, y wefan neu e-bostiwch y tîm ar youth@ceredigion.gov.uk

03/07/2020