Bu Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cydlynu ac yn cymryd rhan mewn Prosiect Syrffio wyth wythnos, mewn partneriaeth ag Ysgol Syrffio Walkin’ on Water, dros yr Haf.

Bu Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cydlynu ac yn cymryd rhan mewn Prosiect Syrffio wyth wythnos, mewn partneriaeth ag Ysgol Syrffio Walkin’ on Water, dros yr Haf.

Roedd y prosiect wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 11-16 oed gyda’r bwriad o ddatblygu eu hunan hyder a lleihau eu pryderon, wrth gynnig cyfleoedd syrffio mewn awyrgylch ddiogel, hwyliog a hamddenol, gyda hyfforddwyr profiadol.

Cafodd chwe pherson ifanc o Ysgol Uwchradd Aberteifi, eu dewis i fod yn rhan o’r prosiect eleni. Noder pob person ifanc cynnydd yn eu hunan barch a’u hunan hyder o ganlyniad i’r prosiect yma. Disgrifiodd rhai o’r cyfranogwyr y prosiect fel, “cyfle anhygoel!” a “mae bod ar y môr yn fy ngwneud i’n hapus.”

Roedd y prosiect yn rhad ac am ddim i’r bobl ifanc a chafodd ei ariannu gan elusen Plant Mewn Angen. Darparwyd yr holl gyfarpar am ddim gan yr Ysgol Syrffio a chafodd cludiant i’r cyfranogwyr ei ddarparu gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

Dywedodd Gavin Witte, Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol, “Roedd y Prosiect Syrffio, y cyntaf o’r fath i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, mewn partneriaeth ag Ysgol Syrffio ‘Walkin’ on Water’, ac yn llwyddiant mawr. Rwy’n hapus iawn gyda llwyddiant y prosiect, ac roedd yn wych gweld datblygiad mewn hunan hyder, hunan barch a holl sgiliau eraill pob unigolyn drwy fod ar y dŵr ac wrth ddysgu i syrffio. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ysgol Syrffio ‘Walkin’ on Water’ ac i Blant Mewn Angen am alluogi ni i gynnig y cyfle hwn a chynnal prosiect o’r fath. Rydym yn gobeithio medru cynnig prosiectau tebyg i bobl ifanc ar draws y sir yn y dyfodol agos.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Da iawn i’r holl bobl ifanc a wnaeth cymryd rhan yn y cyfle yma i fynd i’r dŵr ac i ddysgu syrffio gyda’i gilydd ar arfordir Ceredigion. Mae’n braf i glywed bod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi ymuno â sefydliadau partneriaid i gydlynu profiadau cadarnhaol fel hyn wrth elwa o’r profiad awyr agored gwych sydd gan ein sir i gynnig.”

Mae Clybiau Ieuenctid ar draws y sir nawr wedi ail-ddechrau ar gyfer tymor yr hydref. Am ragor o wybodaeth am hyn y mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ei gynnig, ewch i’w gwefan, www.giceredigionys.co.uk a thudalennau cyfryngau cymdeithasol @GICeredigionYS neu cysylltwch ar 01545572352 neu youth@ceredigion.gov.uk.

05/09/2018