Mae gweithgareddau yn ystod y gwyliau i bobl ifanc Ceredigion wedi parhau i gael eu cynnal yn ddigidol.

Ers dechrau'r pandemig, mae pobl ifanc wedi defnyddio mannau digidol i gyfathrebu, cymdeithasu, derbyn addysg ac adloniant. Oherwydd hyn, bu angen i asiantaethau ymgyfarwyddo â chyfryngau digidol a'u defnyddio er mwyn sicrhau cyswllt â phobl ifanc. Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu'r angen hwn, ac o ganlyniad mae llawer o sefydliadau Gwaith Ieuenctid wedi cymryd eu camau cyntaf i mewn i’r byd digidol er mwyn parhau i ymgysylltu â phobl ifanc a'u cefnogi.

Yn rhan o'r ddarpariaeth gwaith ieuenctid digidol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn canolbwyntio mwy ar ddarparu gweithgareddau rhithwir amrywiol dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys clybiau ieuenctid, gweithgareddau a chymorth ôl-16, y Cyngor Ieuenctid, Panel Dewis, gweithgareddau yn ystod yr hanner tymor a darparu cymorth ar-lein. Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, cynhaliodd y Gwasanaeth Ieuenctid chwe gweithgaredd a gweithdy rhithwir a oedd yn canolbwyntio ar les a datblygiad personol. Cymerodd un ar bymtheg o bobl ifanc ran mewn gweithgareddau amrywiol gan gynnwys coginio, sesiynau ffitrwydd, gemau, a sesiwn 'bod yn ddewr' lle'r oedd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdy holi ac ateb gyda Stephen Varney, Mewnwr Rhyngwladol Rygbi’r Eidal.

Dywedodd un o’n haelodau ifanc: "Cymerais ran yn y Sesiwn Goginio yn ystod Hanner Tymor mis Chwefror gyda Beca a Rhun. Dysgais sut i wneud Crempogau wrth gymdeithasu â phobl ifanc eraill ar yr un pryd. Mae gweithgareddau rhithwir y Gwasanaeth Ieuenctid wedi rhoi cyfle i mi ddysgu sgiliau newydd, cymdeithasu â phobl ifanc eraill, ac wedi cynnig cymorth i mi yn ystod y flwyddyn anodd hon. Rwy'n hoffi'r ffordd y gall y gweithwyr ieuenctid gadw mewn cysylltiad â ni a gwneud y sesiwn rithwir yn hwyl". 

Nod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yw parhau i ddatblygu a hyrwyddo'r cynnig gwaith ieuenctid digidol, a'r Pasg hwn rydym wedi datblygu rhaglen ar-lein yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl ifanc wedi dweud wrthym yr hoffent ei wneud.  Bydd y sesiynau’n cynnwys iaith arwyddion, crefftau Pasg, golygu fideo, gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff, cymorth cyflogaeth, cwisiau a gemau. Mae’r Gwasanaeth yn gobeithio parhau i ddatblygu sgiliau pobl ifanc, megis hunan-barch, hyder, cyfathrebu a datrys problemau, a hynny i gyd mewn amgylchedd anffurfiol a chroesawgar lle gallant gwrdd â phobl newydd ar-lein.

Elen James yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Cymorth Cynnar. Dywedodd: “Mae'r ystod o ddarpariaethau digidol sydd wedi'u datblygu gan y Gwasanaeth Ieuenctid ers dechrau'r pandemig wedi bod yn ardderchog. Mae gwybod bod cyfleoedd a chymorth fel hyn ar gael i blant a phobl ifanc a allai fod yn teimlo'n unig ac yn ynysig yn ystod y cyfnod heriol ac anodd hwn yn bwysig iawn. Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yma i gefnogi plant a phobl ifanc yng Ngheredigion."

I gael rhagor o wybodaeth am waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i'w tudalen Facebook, Twitter neu Instagram @GICeredigionYS neu ewch i'r wefan.

16/03/2021