Ar 14 Tachwedd 2018, cyrrhaeddodd tîm Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal Ceredigion (GCIAC) rownd derfynol Gwobrau Cymunedol Howard League.

Yn y Gwobrau a gafodd eu cynnal yn Llundain, cafodd rhaglenni mwyaf llwyddianus o ‘Blismona’r gymuned’ y DU eu gwobrwyo am eu rhagoriaeth ac arferion gorau.

Roedd GCIAC ar y rhestr fer am ei rhaglen atal 2017/18 sef Prosiect Pic Yp. Wedi’i gyllido gan y Swyddfa Gartref, bwriad y prosiect oedd i ddargyfeirio pobl ifanc bregus, rhwng 14 ac 18 oed, a oedd mewn risg o gymryd rhan mewn troseddau difrifol a threfnedig.

Rhoddodd y rhaglen gyfle i bobl ifanc mewn risg i ddysgu a chydnabod sefyllfaoedd penodol ac i ymarfer ffyrdd o ymateb i gadw eu hunain yn ddiogel. Darparodd y tîm, gan weithio ar y cyd â Choices, Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys beicio mynydd a syrffio.

Roedd amcan allweddol y prosiect wedi cael ei chynllunio i herio patrymau meddwl ac agweddau a chredoau rhagdybiedig. Hefyd, i newid agweddau i droseddu a lleihau’r risg o droseddau pellach gan ddysgu sgiliau datrys problemau a datblygu gwerthoedd ac ymddygiad. Roedd hyn oll yn gysylltiedig ag ymagwedd Ymddygiadol Gwybyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Plant a Diwylliant, “Rwy’n cymeradwyo Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal Ceredigion am eu gwaith diflino ar y prosiect yma ac yn eu llongyfarch ar y gydnabyddiaeth yma. Mae rhaglenni atal fel hyn yn hanfodol i amddiffyn bobl ifanc bregus o niwed ac i helpu eu hatal rhag mynd ymlaen i droseddu.”

Cafodd newidiadau cadarnhaol eu cofnodi ar draws y mwyafrif a wnaeth gymryd rhan yn Prosiect Pic Yp. Mae hyn yn awgrymu fod dewisiadau bywyd adeiladol yn fwy tebygol o gael eu gwneud yn dilyn yr ymyrraeth. Mae cyllideb i ail gyfnod y prosiect newydd gael ei wobrwyo i’r GCIAC. Mi fydd hyn yn ehangu’r prosiect i oedrannau llai ac ymgorffori’r cysylltiad rhwng Profiadau Plentyndod Gwrthwynebus (ACES).

23/11/2018