Cynhelir Gwasanaeth Coffáu ac Ymroddiad cyhoeddus i anrhydeddu milwyr wedi’i cwympo o ardal Aberteifi ar 12 Hydref am 2yp yn Aberteifi. Bydd plac yn cael ei ddadorchuddio wrth gofeb rhyfel Aberteifi yng Ngerddi Victoria gan Arglwydd Raglaw ei Mawrhydi, Dyfed, Miss Sara Edwards.

Bydd y plac yn coffáu Michael J. Dunphy a fu farw yn rhyfel 1982 y Falklands ac Lee T. Davies a David M.E. Greenhalgh a fu farw yn y rhyfel 2001-2015 yn Affganistan.

Y Cynghorydd Paul Hinge yw Eiriolwyr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, "Rhoddodd tri dyn o Aberteifi eu bywydau wrth iddynt wasanaethu eu gwlad. Yr wyf wrth fy modd y caiff y gymuned y cyfle i'w coffáu a dangos eu gwerthfawrogiad.

“Mae pob croeso i unrhyw un sydd â diddordeb i fynychu'r Gwasanaeth."

 

07/10/2019