Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae Porth Cymorth Cynnar wedi sefydlu llwyfan rithwir er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cadw mewn cysylltiad gyda thrigolion bregus ledled Ceredigion. Oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd i ddiogelu ein cymunedau yn erbyn COVID-19, ni fydd nifer o drigolion yn gallu cael mynediad at y cymorth neu’r ddarpariaeth y maent yn ei dderbyn fel arfer, megis grwpiau rhieni neu ddosbarthiadau atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff. Yn hytrach, rydym yn sicrhau y cedwir mewn cysylltiad â’r holl drigolion sy’n hysbys i’n gwasanaethau drwy alwadau lles rheolaidd, pe baent yn dymuno derbyn hynny.

Bydd ein staff yn cyfathrebu gydag oddeutu 2000 o drigolion, gan amrywio o bobl ifanc i deuluoedd i ofalwyr a all fod angen cyswllt rheolaidd arnynt neu a fyddai’n elwa o hynny tra nad yw eu gwasanaeth yn gweithredu fel yr arfer.

Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o alwadau lles wedi cael eu gwneud, ac mae’r rhain wedi cael derbyniad da ar draws Ceredigion. Mae trigolion wedi dweud ei bod yn wych bod rhywun yn cadw mewn cysylltiad â nhw, er mwyn rhoi cyfle iddynt gael galwad ffôn wythnosol a rhywun i siarad â nhw.

Mae Mr Davies* (enw wedi’i newid) wedi arfer mynychu dosbarthiadau wythnosol ar gyfer cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio i wneud ymarfer corff yn y ganolfan hamdden leol, a hynny yn rhan o’i wellhad. Mae Hyfforddwr NERS Mr Davies wedi bod yn cadw mewn cysylltiad ag ef yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn ogystal ag elwa o gael sgwrs gyda’i hyfforddwr, mae’r preswylydd hwn hefyd wedi cael cyfle i ddilyn fideos ymarfer corff rhithwir o’i gartref.

Yn ystod galwad ffôn wythnosol Mr Davies, dywedodd wrth ei hyfforddwr ei fod yn poeni am ei ffrind a’i gymydog sydd wedi’i gofrestru’n ddall ac yn fyddar. Roedd ffrind Mr Davies yn dibynnu ar ei ffrind i’w gefnogi bob dydd, ond nid oedd hyn yn bosib bellach oherwydd eu bod yn hunan-ynysu. Er nad yw’r unigolyn hwn yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau NERS, cysylltodd ein hyfforddwr â Phorth Gofal i ofyn a fyddai modd i’r unigolyn dderbyn cymorth gan Swyddog Adsefydlu’r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl â Nam ar eu Golwg, sydd wedi trefnu cymorth ychwanegol i’r unigolyn hwnnw ers hynny.

Gellir gweld fideos Hyfforddwr NERS Ceredigion ar dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram Ceredigion Actif.

Os byddwch chi, neu rywun yr ydych chi’n ei adnabod, yn elwa o’r Gwasanaeth Cadw mewn Cysylltiad, cysylltwch â Clic ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk a fydd yn cyfeirio eich ymholiad at Borth Cymorth Cynnar.

Mae Porth Cymorth Cynnar hefyd yn diweddaru rhestrau adnoddau yn rheolaidd, ac mae’r rhain ar gael yma ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/

01/04/2020