Gall llygod mawr achosi llawer o ddifrod, gan gostio arian a phryder i lawer. Mewn ymateb i’r pryderon yma, mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn technoleg teledu cylch cyfyng ar gyfer pla lle, fel gwasanaeth ychwanegol, bydd Wardeiniaid Cymunedol yn gallu nodi diffygion mewn draeniau a nodi pwyntiau mynediad posibl lle mae llygod mawr yn dod i mewn eiddo o'r draeniau.

Dywedodd Alun Williams, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Polisi a Pherfformiad, "Mae llawer o waith ein Gwardeiniaid Cymunedol yn digwydd mewn safleoedd busnes, megis ffermydd lle mae cyflenwad parod o fwyd ar gael fel arfer, sy'n denu fermin fel llygod mawr. Yn wir mae ein dau swyddog, Nigel a Roy newydd gymryd rhan mewn rhaglen ddogfen deledu, 'DRYCH: pla' ar eu gwaith, a fydd i'w gweld nawr ar BBC iPlayer.

“Mae gan ein Gwardeiniaid Cymunedol eisoes gyfoeth o wybodaeth am lygod mawr, eu hymddygiad a'r math o amgylchedd y maent yn ffynnu ynddo. Maent yn brofiadol iawn wrth ddelio â phlâu, yn enwedig ar ffermydd, lle maent yn sicrhau bod llygod mawr yn cael eu cadw dan reolaeth mewn dros 100 o ffermydd ledled Ceredigion.

"Gyda newidiadau yn y gyfraith o ran rheoliadau ‘Rodenticide’, mae angen i bobl fod yn ymwybodol nad yw'r math o gynhyrchion rheoli plâu y gellir eu prynu dros y cownter mor gryf â'r hyn yr arferent fod. Mae ein Gwardeiniaid Cymunedol yn defnyddio'r cynhyrchion angenrheidiol i reoli plâu er mwyn sicrhau bod y broblem o blâu wedi'i datrys yn llawn ac yn darparu gwasanaeth o safon uwch."

Os credwch fod gennych broblem pla, peidiwch â gadael iddi waethygu. Cysylltwch â Clic, canolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor ar 01545 570 881 neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar-lein ar wefan y Cyngor. Bydd eich mater yn cael ei logio a'i gyfeirio at y Gwardeiniaid Cymunedol mwyn ddelio ag ef. Mae’r Gwardeiniaid Cymunedol yn anelu at ymweld â phreswylwyr o fewn tri diwrnod i dderbyn eu galwad. Mae croeso i breswylwyr ffonio a chael cyngor am ddim gan y Gwardeiniaid Cymunedol.

Edrychwch ar www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/difa-plâu am ragor o wybodaeth.

23/04/2019