Mae’r gwaith o adeiladu ail gam y llwybr cyd-ddefnyddio newydd rhwng Bow Street a Phenrhyn-coch newydd ddechrau. Bydd y llwybr yn cael ei adeiladu yn unol â Chanllawiau Dylunio Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Llesol.

Y llynedd cafodd y cam cyntaf ei gwblhau, sef llwybr newydd i feicwyr a cherddwyr rhwng Bow Street ac IBERS. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau arian grant yn ystod y flwyddyn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i barhau â’r llwybr a chysylltu â Phenrhyn-coch.

Bydd y rhan fwyaf o’r berth ffawydd bresennol yn cael ei symud ac - o dan gyfarwyddyd Ecolegydd Priffyrdd y Cyngor - bydd y berth yn cael ei thorri’n isel er mwyn sbarduno’i thwf y flwyddyn nesaf gan wella’r siawns y bydd y broses drawsleoli’n llwyddiannus. Bydd clawdd newydd - lle nad oes un ar hyn o bryd - yn cael ei blannu wrth ochr y llwybr newydd a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o rywogaethau brodorol ac yn cael ei hau â hadau cyfoethog eu rhywogaethau.

Bydd 150 metr o glawdd newydd yn cael ei blannu gyferbyn ag adeilad newydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, a fydd yn cyfrannu at gynnydd cyffredinol yn nifer y cloddiau a choed newydd a fydd yn cael eu plannu fel rhan o’r cynllun hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod o’r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, a Thai: “Mae swyddogion Priffyrdd y Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth fel bod y llwybr hwn yn gallu cysylltu Penrhyn-coch â datblygiad newydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth ym Mhlas Gogerddan, a fydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Awst 2020. Bydd y llwybr hefyd yn cysylltu â Gorsaf Reilffordd Bow Street y mae disgwyl iddi gael ei chwblhau ym mis Hydref eleni.

“Mae’r datblygiadau hyn yn newyddion gwych i gymunedau Penrhyn-coch a Bow Street oherwydd bydd y cynllun yn eu cysylltu’n well â gwasanaethau, cyfleusterau a gwaith yn lleol. Mae cynlluniau o’r math hwn yn helpu pobl i wneud llai o siwrneiau yn y car, gan gyfrannu’n gadarnhaol at leihau newid hinsawdd ac allyriadau CO2 a hefyd galluogi ein trigolion i fyw bywydau iachach a mwy llesol.”

Bydd y gwaith o blannu’r clawdd newydd yn cael ei wneud yn hwyrach eleni, yn ystod yr hydref, yn unol ag argymhelliad yr Ecolegydd. Bydd hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd y plannu’n llwyddo gan ddarparu cynefin gwerthfawr yn yr hirdymor.

25/02/2020