Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cymryd rhan mewn Prosiect Cyfnewid Ieuenctid Rhyngwladol yn yr Eidal, gyda Grwpiau Ieuenctid eraill o Wlad Pwyl, Sbaen a Malta.

Bydd y prosiect, sef ‘Allan o’r Bocs’, yn wythnos o hyd ac yn canolbwyntio ar y thema o fewnfudo ac integreiddio. Bydd y prosiect yn ffocysu ar themâu megis hunaniaeth, gwahaniaethau diwylliannol, stereoteipiau a rhagfarnu, mudo a deialog adeiladol a hynny drwy gymryd rhan mewn gweithdai amrywiol, dadansoddi syniadau, chwarae rôl a gemau tîm.

Caiff y prosiect ei gynnal gan Fudiad Ieuenctid Eidalaidd o’r enw Associazione Giovaninsieme, a chaiff ei ariannu gan Erasmus+. Cynhelir y prosiect mewn tref fynyddig yng Ngogledd Orllewin yr Eidal sef Torgnon, Dyffryn Aosta.

Cafodd wyth person ifanc eu dewis i gymryd rhan yn y prosiect rhyngwladol yma eleni. Bydd Molly Isherwood (Cyngor Ieuenctid Ceredigion), Caredig Ap Tomos (Cyngor Ieuenctid Ceredigion), Seren Williams (Cyngor Ieuenctid Ceredigion), Dyfan Hunt (Clwb Ieuenctid Penparcau), Matthew Howe (Clwb Ieuenctid Aberteifi), Thomas Evans (Gwirfoddolwr Ifanc), Chloe Toose (Clwb Ieuenctid Aberaeron) and Neide Willis (Clwb Ieuenctid Aberaeron) yn mynd i’r Eidal.

Dywedodd Lowri Evans, Dirprwy Brif Swyddog Ieuenctid, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ymweld â’r Eidal, ac i gwrdd ag eraill o wledydd amrywiol ar draws Ewrop. Mae’r prosiect hwn yn gyfle rhagorol i bobl ifanc Ceredigion ddysgu sgiliau newydd ac i ddatblygu eu dealltwriaeth o fewnfudo ac integreiddio, drwy archwilio safbwyntiau gwahanol. Rydym yn ffodus iawn i gynrychioli Prydain yn y cyfnewid rhyngwladol i’r Eidal eleni, gyda’n partneriaid o Malta, Gwlad Pwyl a Sbaen.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Fel Cyngor, rydym yn hynod falch o waith y Gwasanaeth Ieuenctid i bobl ifanc ein sir. Bydd hyn yn brofiad pwysig a gwerth chweil i griw o bobl ifanc Ceredigion i ddatblygu sgiliau newydd ac i ddysgu am faterion cyfoes pwysig a chysylltiadau rhyngwladol. Rydym yn dymuno’r gorau iddynt ar eu taith.”

Bydd y grŵp yn ymuno â 32 o bobl ifanc eraill rhwng 14-17 oed ac wyth Gweithiwr Ieuenctid o’r Eidal, Sbaen, Malta a Gwlad Pwyl, ddiwedd Mis Awst.

15/08/2018