Fel rhan o’i ymgyrch blynyddol i leihau troseddau o fewn y sir, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn gwahodd preswylwyr i gyfarfod cyhoeddus o’r Bartneriaeth Lawn a’r Grŵp Strategol.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 2yp ar ddydd Iau 15 Tachwedd, 2018 yn Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron. Bydd y cyfarfod yn darparu’r cyhoedd ag adolygiad o’r datblygiadau Diogelwch Cymunedol yng Ngheredigion. Bydd yr adolygiad yn ymwneud â Thargedau Lleihau Troseddau Lleol a’r datblygiad ar argymhellion a amlinellwyd yn Asesiad Strategol 2018/19.

Mae hefyd gan y grŵp orolwg strategol ar faterion sydd yn effeithio ar ddiogelwch cymunedol o fewn Ceredigion, ac maent yn monitro perfformiad a chyflawni ymyriadau. Mae’r grŵp hefyd yn rhoi canllawiau a chyfeiriad wrth ymateb i faterion sydd yn achosi neu wedi achosi pryder.

Dywedodd Sue Darnbrook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion, “Mae’r cyfarfodydd yma yn gyfle ardderchog i aelodau’r gymuned fedru gwerthfawrogi’n llawn y gwir sefyllfa o droseddau ac anhrefn o fewn y sir. Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn falch o’u cyflawniadau hyd yma yn nhermau lleihau troseddu ac anhrefn. Er hyn, nid ydynt yn hunanfodlon, ac maent yn parhau i fonitro cynnydd, tueddiadau a datblygiadau yn ofalus. Mae hyn nid yn unig er mwyn cynnal ond, lle bo hynny’n bosibl, gwella diogelwch cymunedol o fewn y sir.”

Bydd pynciau a drafodir o fewn y cyfarfod yn gymorth i gyflwyno blaenoriaethau lleol er mwyn ei ystyried yng nghyswllt Cynllun yr Heddlu a Throseddau.

Mae’r Bartneriaeth Lawn yn cynnwys y cyrff canlynol: Cyngor Sir Ceredigion, Heddlu Dyfed Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Gwasanaethau Carchar a Phrawf Ei Mawrhydi a’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol a Bwrdd Cynllunio Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Ardal Dyfed Powys.

Mae croeso i bawb fynychu. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01545 570 881.

06/11/2018