Mae trigolion yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o brosiect i wella Bryngaer Pen Dinas.

Mae arian grant i wneud gwelliannau i Fryngaer Pen Dinas wedi cael ei ddiogelu gan Gyngor Sir Ceredigion ac fel rhan o’r prosiect, mae’r Cyngor yn edrych am drigolion lleol i fynegi eu diddordeb i fod yn rhan o’r gwaith a fydd yn cael ei wneud. Bydd Swyddog Mynediad Cymunedol y Cyngor ar gael i drafod y prosiect ymhellach ar ddydd Sadwrn, 20 Hydref yn Yr Hwb, Canolfan Gymunedol Penparcau rhwng 10:30yb a 1yp.

Bydd y prosiect yn gwella mynediad i’r Fryngaer sydd yn heneb gofrestredig a gwarchodfa natur leol. Yn ogystal, bwriedir cryfhau cysylltiadau gyda llwybrau beicio’r Ystwyth/Rheidol, Llwybr Arfordir Ceredigion a Chymru ynghyd a chyfleusterau ac atyniadau lleol eraill. Wrth wella lled ac arwyneb y llwybrau, mi fydd hyn o fudd i drawstoriad eang o bobl leol ac ymwelwyr ac yn help i leihau’r rhwystrau sydd yn atal mynediad i gefn gwlad.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio, “Mae’r newyddion ein bod wedi bod yn llwyddiannus mewn diogelu’r cynnig yn ardderchog ac ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch i’r holl drigolion a wnaeth roi adborth i’r cais. Rydym yn edrych am bobl â diddordeb yn y safle a sydd eisiau bod yn rhan o sut y bydd y prosiect yn datblygu. Dyma gyfle gwych i drigolion fod yn rhan o rywbeth a fydd yn wneud gwahaniaeth mawr i drigolion a thwristiaid.”

I fynegi diddordeb i fod yn rhan o’r prosiect neu i dderbyn manylion pellach, e-bostiwch Eifion.Jones@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.

15/10/2018