Yn dilyn taith anhygoel o amgylch Cymru a’r UDA yn 2018, gan gynnwys perfformiadau yn Efrog Newydd a Washington DC, mae Cwmni Theatr y Torch yn falch o ddod â stori Ray Gravell i’r llwyfan unwaith yn fwy ar gyfer 2019. Mae’r ddrama ar fin dechrau ar ei phumed siwrne genedlaethol a bydd yn terfynu ei thaith yng Nghymru yn Theatr Felinfach ar Nos Wener, 15 Mawrth am 7:30yh, union bedair blynedd ers iddi ymweld am y tro cyntaf.

Mae Gareth J Bale yn atgyfodi rôl Grav yn y sioe un-dyn hynod hon sy'n archwilio bywyd ac amserau un o feibion mwyaf cariadus Cymru, sef Ray Gravell ac meddai, “'Rwy'n hynod falch o fod yn ôl ar y ffordd gyda Grav. Mae'n sioe sy'n agos at fy nghalon ac er fy mod wedi ei pherfformio sawl tro, mae bob amser yn anrhydedd cael chwarae Ray. West is Best!”

Peter Doran yw Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch a dywedodd am adfywiad 2019 o Grav a'i phoblogrwydd parhaol: "Grav - y sioe sy'n gwrthod mynd i ffwrdd! Bydd y daith hon yn ein gweld yn rhoi ein canfed perfformiad ac er nad wyf wedi mynd drwy'r ffigyrau, mae'n rhaid ei bod wedi cael ei gweld gan o leiaf 10,000 o bobl. Yn fy neugain mlynedd o weithio ym myd y theatr, dydw i erioed wedi gweithio ar sioe gyda chymaint o apêl. Os nad ydych chi wedi ei gweld eto, ewch i weld beth sy’n achosi’r holl gynnwrf - ni fyddwch yn difaru.”

Yn ystod y daith, bydd Grav yn derbyn ei 100fed 'cap' gan nodi cyflawniad anhygoel arall yn hanes y sioe ryfeddol hon. Mae Grav yn cael ei gydnabod fel Chwaraewr rygbi tu hwnt o barchus a gynrychiolodd Cymru a'r Llewod Prydeinig ar draws y byd, roedd Grav yn eicon Cymreig ar y cae rygbi ac oddi arno. Fel actor, eicon diwylliannol, tad, gŵr, dyn â bywyd llawn straeon sy'n haeddu cael eu clywed unwaith eto.

Mae Grav yn sioe un dyn anhygoel o ysbrydoledig a thwymgalon, sydd wedi mwynhau clod am gynhyrchiad 'rhyfeddol' ac sy’n 'deyrnged haeddiannol i arwr rygbi'. Yn 2016, fe wnaeth Grav ennill gwobr am y Cynhyrchiad Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 - yr unig wobr a bleidleisiwyd amdano gan y cyhoedd. Enwebwyd y ddrama hefyd ar gyfer yr Actor Gorau sef Gareth J Bale, y Cyfarwyddwr Gorau sef Peter Doran a'r Dramodydd Gorau sef Owen Thomas.

Bydd Grav yn Theatr Felinfach ar Nos Wener, 15 Mawrth am 7:30yh. Mae tocynnau yn £12 i oedolion, £11 i aelodau a phensiynwyr a £10 i blant a myfyrwyr.

 

27/02/2019