Mae £200,000 o gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo i drefi ar draws Canolbarth Cymru i ariannu addasiadau mewn canol trefi i hwyluso masnachu a diogelwch y cyhoedd mewn ymateb i Coronafeirws. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel byrddau a chadeiriau awyr agored, sgriniau, offer cysgodi, gwres awyr agored a chyflenwad trydan awyr agored a goleuadau i fannau masnachu awyr agored i sicrhau bod ardaloedd yn cael eu gwahanu a'u bod yn ddiogel a bod busnesau yn gallu gweithredu o dan y gofynion ymbellhau cymdeithasol cyfredol.

Mae'r pandemig yn rhoi pwysau na welwyd o’r blaen ar ein busnes, ac nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith hirdymor coronafeirws ar ganol ein trefi, ond mae hefyd wedi darparu cyfle unigryw i ail-ddychmygu ein canol trefi yn wyrddach, glanach a diogelach.

Mae'r grant ar gael i Gynghorau Tref, ac i grwpiau adfywio a gyfansoddwyd yn gyfreithlon i wneud ceisiadau sydd o fudd i grwpiau o fusnesau, lle gall pob tref wneud cais am uchafswm o £10,000 o gostau prosiect cymwys.  Bydd y grant ar gael hyd at 80% o gyfanswm y costau gyda'r ymgeisydd yn cyrchu 20% o arian cyfatebol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans: "Mae hwn yn gyfle i ni helpu ein trefi i gynnal amgylchedd mwy diogel a gwell a fydd o fantais i fusnesau, trigolion a phawb sy'n ymweld â Cheredigion. Wrth i ni barhau i addasu i'r ffordd y mae coronafeirws yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd, mae'n gyfle hefyd i edrych ar bethau'n wahanol drwy weithio gyda'n gilydd i greu dyfodol cadarnach. "

Byddai angen i bob cais gael ei gyflawni yn unol â'r canllawiau presennol ar ofynion ymbellhau cymdeithasol ac ni ddylai rwystro llwybr i gerddwyr ar balmentydd, llwybrau nac ardaloedd mannau cyhoeddus. Rydym yn cynghori'n gryf y dylai unrhyw ddarpar ymgeiswyr ymgysylltu â’r Tîm Adfywio ac Economi’r Cyngor cyn gynted â phosibl.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30ain Tachwedd 2020. I gael rhagor o fanylion am y grant, y meini prawf cymhwyster a sut i wneud cais, ewch i: http://www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogi-economi-ceredigion/

28/08/2020