Mae nifer o becynnau cymorth bellach ar gael i gefnogi busnesau mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws. Yn dilyn diweddariad i gynllun grantiau busnes COVID-19 Llywodraeth Cymru ar 26 Mai, mae sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithredu at ddibenion elusennol bellach yn gallu gwneud cais am grant busnes o hyd at £10,000.

Ym mis Mawrth, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddau grant i gefnogi busnesau yng Nghymru. Caiff y grantiau hyn eu gweinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion. Hyd yn hyn, mae’r Cyngor wedi cymeradwyo 1,892 o geisiadau ac wedi dyfarnu cyfanswm o £23.3 miliwn.

Amcangyfrifir bod cyfanswm o 3,000 o fusnesau ledled Ceredigion a allai fod yn gymwys, ac o’r rhain mae 30% eto i wneud cais ar gyfer y grant. Anogir busnesau cymwys i gyflwyno eu ceisiadau erbyn 5pm ar 30 Mehefin; y dyddiad y bydd y cynllun grantiau yn dod i ben.

Mae’r Cyngor yn annog busnesau nad ydynt yn siŵr a ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun i edrych ar y dudalen ‘Cefnogaeth i Fusnesau’ ar ei wefan o dan y brif dudalen ynglyn â’r coronafeirws www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogaeth-i-fusnesau-a-chyflogwyr/ ac edrych ar yr adran ynglŷn â Grantiau Busnes (Awdurdod Lleol).

Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn canfod pa gymorth ychwanegol fydd ar gael i fusnesau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd.

28/05/2020