Ar drothwy cyhoeddi canlyniadau arholiadau TGAU yr wythnos hon, daeth cadarnhad y bydd Graddau Asesu’r Ganolfan yn cael eu defnyddio i ddyfarnu graddau’r disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o newidiadau i’r broses o ddyfarnu graddau arholiadau Safon Uwch a TGAU yn ystod y dyddiau diwethaf.

Cyhoeddodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, y bydd Graddau Asesu’r Ganolfan a bennwyd gan yr ysgolion bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer holl arholiadau TGAU, Safon UG a Safon Uwch 2020.

O ran y canlyniadau Safon UG a Safon Uwch a gyhoeddwyd eisoes i ddisgyblion ar 13 Awst 2020, bydd Graddau Asesu’r Ganolfan yn cael eu hailgyflwyno i’r ysgol. Os yw’r canlyniad a roddwyd i ddisgyblion Safon UG a Safon Uwch ar 13 Awst 2020 yn uwch na’r radd a aseswyd gan y ganolfan, y radd uchaf o’r ddwy fydd y radd derfynol a ddyfernir.

Mae Cyngor Sir Ceredigion a’n hysgolion yn ymwybodol o’r pryder ychwanegol y mae’r ansicrwydd dros y dyddiau diwethaf wedi’i achosi i lawer o’n dysgwyr. Hoffem roi sicrwydd i’n dysgwyr bod pob ysgol yn gwneud popeth sy’n bosibl er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gallu cael mynediad i’r brifysgol, y coleg neu’r lleoliadau gwaith o’u dewis.

18/08/2020