Sefydlwyd Gorymdaith Gŵyl Dewi Aberaeron gan y diweddar Alun Williams, cyn-bennaeth Ysgol Gynradd Aberaeron yn 1979 ac mae’n ddigon posib taw dyma’r orymdaith hynaf o’i fath yng Nghymru sydd yn parhau hyd heddiw.

Dyddiad Gorymdaith Gŵyl Dewi 2020 Aberaeron yw dydd Llun, 02 Mawrth gyda’r gorymdeithio i gychwyn am 9.30y.b. Bydd Gorymdaith Gŵyl Dewi Aberaeron 2020 ychydig yn wahanol i’r arfer wrth i ddisgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron ymuno gyda’r Ysgol Gynradd i orymdeithio o gwmpas y dref. Bydd y ddwy ysgol yn gorymdeithio o’u safleoedd i Sgwâr Alban ble fydd y ddwy yn uno i gyd-gerdded i ardal Pwllcam. Yma, bydd seremoni fer yn cloi’r digwyddiad am 10y.b.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, “Mae gorymdeithiau Gŵyl Dewi wedi dod yn fwyfwy cyffredin blwyddyn ar ôl blwyddyn. Bellach mae gorymdaith yn cael ei gynnal mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru gan gynnwys Caerdydd, Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi. Yn debyg i’r hyn sydd yn digwydd yn y lleoliadau eraill yma, pwrpas Gorymdaith Gŵyl Dewi Aberaeron yw tynnu cymaint o bobl yr ardal a phosib at ei gilydd er mwyn dathlu diwrnod Nawddsant Cenedlaethol Cymru, ein hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg mewn môr o liw a chân yng nghanol y dref.”

Dros 40 mlynedd ers yr orymdaith gyntaf, Ysgol Gynradd Aberaeron sydd yn parhau i drefnu’r orymdaith ac eleni maent yn cydweithio gydag Ysgol Gyfun Aberaeron a Cered, y Fenter Iaith leol i ddatblygu’r digwyddiad. Fel rhan o’r cydweithio yma mi fydd Cyngor Cymreictod Ysgol Gynradd Aberaeron a Swyddog Cymraeg Byd Busnes Cered, Siriol Teifi yn dosbarthu taflenni i fusnesau er mwyn cynnig syniadau iddynt sut y mae modd iddynt gymryd rhan yn y digwyddiad.

Mae croeso i unrhyw un ymuno yn yr orymdaith – yn unigolion neu yn sefydliadau. Os am gymryd rhan neu am fanylion pellach am y digwyddiad mae croeso i chi gysylltu gyda Cered ar 01545 572 350 neu cered@ceredigion.gov.uk.

Yn ogystal ag Aberaeron, cofiwch am y pedwar parêd arall sy’n digwydd yn y sir i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
• Tregaron, Dydd Gwener 28 Chwefror, 2:00y.p.
• Aberteifi, Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 10:30 y. b.
• Llambed, Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 11.00 y. b.
• Aberystwyth, Dydd Sadwrn 29 Chwefror, 1:00 y.p.

05/02/2020