Mae adroddiad wedi cael ei gyhoeddi s’yn rhoi manylion o’r holl gefnogaeth a gweithgareddau a gynhaliwyd gyda theuluoedd â phlant o dan 5 oed rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

Mae Cymorth i Deuluoedd a Rhianta i Blant dan 5 oed yn ystod COVID-19 2020-2021 yn adlewyrchu'r gwaith a wneir gan staff y Blynyddoedd Cynnar a ariennir gan Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, Peilot Braenaru, Integreiddio Blynyddoedd Cynnar, Cronfa Gofal Integredig a grantiau'r Gronfa Datblygiad Plant. Roedd y gwaith yn cefnogi teuluoedd â phlant o dan 5 oed yn ystod pandemig COVID-19 trwy weithio fel partneriaid a symud y gwaith yn ddigidol.

Dangosodd staff y Blynyddoedd Cynnar eu hymrwymiad i deuluoedd ledled Ceredigion trwy weithio'n ddi-dor ar draws gwasanaethau yn ystod pandemig COVID-19. Bu Gwasanaethau Iechyd, y Cyngor Sir, sefydliadau gwirfoddol a Gwasanaethau’r 3ydd Sector yn gweithio gyda’i gilydd i ddiwallu teuluoedd ag anghenion plant dan 5 oed trwy ddarparu cyrsiau a grwpiau, galwadau cadw mewn cysylltiad, hyfforddiant, a gofal plant. Fe wnaethant drefnu dosbarthiad parseli bwyd, bagiau adnoddau, bwndeli babanod, offer tywydd glawog a phecynnau eraill yn ôl yr angen, ar ben eu dyletswyddau arferol.

Erbyn Hydref 2020, roedd cyrsiau wedi’u haddasu i amgylchiadau teuluoedd. Roedd pob un o'r cyrsiau a chefnogaeth un i un ar gael yn rhithiol. Roedd offer fel iPads a hyfforddiant ar gael i sicrhau bod pob teulu yn gallu ymuno ag unrhyw grwpiau yr oeddent eu heisiau. Cynhaliwyd rhestr aros gydgysylltiedig rhyngasiantaethol i gadw golwg ar ba grwpiau a chyrsiau oedd eu hangen. Helpodd hyn i wneud y gwasanaeth yn fwy ymatebol i anghenion teuluoedd. Bydd llawer o'r datblygiadau arloesol hyn yn aros fel rhan o'r cynnig o gefnogaeth i'r dyfodol.

Defnyddiwyd tudalen Facebook Teuluoedd Ceredigion Families https://www.facebook.com/TeuluoeddCeredigionFamilies/, yn ogystal â thudalennau Facebook Canolfan Deuluoedd ar draws Ceredigion i rannu negeseuon pwysig, dolenni i adnoddau a chyngor amrywiol. Er mwyn cefnogi'r rhai nad oeddent ar y cyfryngau cymdeithasol, datblygwyd Llyfryn - Paratoi ar gyfer y Byd Mawr a dosbarthwyd yn eang trwy Feithrinfeydd, Ymwelwyr Iechyd a Chanolfannau Teulu. Yn ogystal, roedd gwybodaeth ar gael ar Dewis Cymru a chan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. I edrych ar y cyrsiau sydd ar gael, ewch i Dewis Cymru a dewis #Ceredigion a #FamilySupport.

Gweithgareddau mewn niferoedd:

  • Dosbarthwyd 1,030 o fagiau adnoddau, 1,382 o becynnau rhieni a 230 o becynnau teulu actif
  • Darparwyd 74 o becynnau o gymorth iechyd wedi'u targedu
  • Cofrestrodd dros 250 o rieni ar gwrs cyn-geni, rhianta, lles emosiynol neu gwrs tylino babanod
  • Derbyniodd 50 o rieni gefnogaeth trwy'r gwasanaeth cynhwysiant digidol, gyda iPads wedi'u benthyca i ganiatáu i rieni gael mynediad at gyrsiau
  • Ariannwyd 7,678 o sesiynau gofal plant

Gellir gweld yr Adroddiad Cymorth i Deuluoedd a Rhianta i Blant yn ystod COVID-19 2020/2021 ar wefan y Cyngor: http://www.ceredigion.gov.uk/media/9613/cymorth-teuluol-a-rhianta-ir-rhai-gyda-phlant-dan-5-yn-ystod-covid-19-2020-2021.pdf

Dewch o hyd i wybodaeth Dechrau’n Deg Ceredigion ar Dewis Cymru: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/plant-a-phobl-ifanc/gwasanaethau-i-gefnogi-teuluoedd/dechrau-n-deg/

30/07/2021