O ganlyniad i nifer yr achosion o’r Coronafeirws sydd wedi cynyddu’n sydyn yng Ngheredigion, bydd partneriaid Ceredigion yn darparu datganiad ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf yng Ngheredigion er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch ein cymunedau ymhellach.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai canolfannau cymunedol amlbwrpas, gan gynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, neuaddau eglwysi a chyflusterau cymunedol eraill, ailagor o 30 Gorffennaf ymlaen. Fodd bynnag, ar 7 Awst cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau yn y rheoliadau, ac ers hynny mae’r canllawiau cenedlaethol wedi’u diweddaru i sicrhau cydymffurfiaeth â datblygiadau eraill megis defnyddio masg mewn mannau cyhoeddus dan do a ddaeth yn orfodol yng Nghymru ddydd Llun 14 Medi. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori awdurdodau y bydd y rheoliadau ar ymgynnull yn gymdeithasol yn dal i atal nifer o weithgareddau rhag digwydd mewn lleoliadau cymunedol.

Sefydlwyd panel amlasiantaeth i gynnig cyngor a chefnogi’r gwaith o ailagor cyfleusterau’n ddiogel, a hynny’n unol â chanllawiau cenedlaethol. Crëwyd y panel o dan Is-grŵp Deall ein Cymunedau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) a Chyngor Sir Ceredigion sy’n arwain ar y gwaith o ddatblygu’r grŵp a hynny mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r panel yn cynnwys cynrychiolaeth o Iechyd a Diogelwch, Iechyd yr Amgylchedd a Diogelwch Cymunedol.

Mae manylion ynghylch y gweithgareddau a ganiateir wedi’u nodi yn rheoliad 14 Llywodraeth Cymru ar gyfer gorfodi cyfyngiadau mewn perthynas â’r Coronafeirws. Fodd bynnag, oherwydd bod nifer yr achosion o’r Coronafeirws yn cynyddu’n sydyn yng Ngheredigion, bydd y panel amlasiantaeth yn darparu datganiad ynghylch y sefyllfa ddiweddaraf yng Ngheredigion er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch ein cymunedau ymhellach.

Os caniateir eich gweithgaredd neu wasanaeth o dan reoliad 14, mae'r panel yn eich cynghori'n gryf i wneud pob ymdrech i gynnal eich gweithgaredd yn ddigidol neu gysylltu dros y ffôn. Os na, gallech ystyried a yw’n bosib cynnal eich gweithgaredd yn yr awyr agored, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Dim ond fel dewis olaf y dylid ystyried cynnal eich gweithgaredd o dan do. Os mai hwn yw’r unig ddewis a'i bod yn hanfodol eich bod yn cyfarfod, yna sicrhewch eich bod yn cadw’r sesiwn yn gryno ac yn cynnwys cyn lleied o bobl â phosibl, gyda'r holl weithdrefnau a phrotocolau angenrheidiol ar waith.

Dylai’r rheini sy’n gyfrifol am weithgareddau cymunedol gofio gwneud y canlynol;

  • cynnal pellter corfforol o 2 fetr wrth gwrdd ag unrhyw un nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig o hyd at 6 o bobl, boed hynny o dan do neu yn yr awyr agored
  • gwisgo masg mewn mannau cyhoeddus dan do
  • golchi eich dwylo’n rheolaidd am 20 eiliad neu ddefnyddio’r hylif diheintio dwylo a ddarperir.    

Er nad oes angen cymeradwyaeth yr Awdurdod Lleol ar leoliadau cymunedol i ailagor ar gyfer gweithgareddau a ganiateir, mae Llywodraeth Cymru yn annog y canolfannau hynny i roi gwybod i’r awdurdod lleol os ydynt yn bwriadu ailagor unrhyw gyfleusterau cymunedol. Mae'r panel yn annog unrhyw un sy'n gyfrifol am gyfleusterau cymunedol i geisio cyngor er mwyn sicrhau bod y trefniadau'n ddiogel ac yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol. Cyn ailagor unrhyw gyfleuster cymunedol, rhaid i'r canolfannau hynny sicrhau eu bod yn barthau sy’n rhydd rhag Covid.

At hynny, wrth i nifer yr achosion gynyddu ledled Cymru, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i adolygu’r sefyllfa a gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau drwy sicrhau nad yw’r feirws yn cael ei drosglwyddo ymhellach, ac felly dylid ystyried yn ofalus cyn caniatáu unrhyw weithgaredd dan do mewn lleoliadau cymunedol ar hyn o bryd, hyd yn oed os yw’n weithgaredd a ganiateir.

Gofynnwn i'r rhai sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau a lleoliadau cymunedol ystyried ai dyma'r amser iawn i ailagor neu ganiatáu mwy o weithgarwch yn eich lleoliad. Daw'r diweddariad hwn yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan yr Awdurdod Lleol i gau'r holl Gyfleusterau Hamdden a redir gan y Cyngor fel mesur rhagofalus yn sgil y cynnydd mewn achosion positif yn y Sir.

Bydd y panel aml-asiantaeth yn parhau i gefnogi a chynghori Sefydliadau a Grwpiau Cymunedol, a gellir cyflwyno cwestiynau neu geisiadau am wybodaeth i'r grŵp sy'n cyfarfod yn wythnosol drwy CAVO ar gen@cavo.org.uk neu drwy ffonio 01570 423232.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

02/10/2020