Fel rhan o’i ymgyrch blynyddol i lefelau troseddau o fewn y sir, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn gwahodd preswylwyr i gyfarfod cyhoeddus o’r Bartneriaeth Lawn a’r Grŵp Strategol am 2pm yn Siambr y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron, ar Ddydd Iau 10 Mai, 2018.

Bydd y cyfarfod yn darparu’r cyhoedd ag adolygiad o’r datblygiadau o ran diogelwch cymunedol yng Ngheredigion a fydd yn ymwneud â phynciau megis targedau lleihau troseddau lleol, datblygiad ar argymhellion a amlinellwyd yn Asesiad Strategol 2017/18 ac argymhellion yr Asesiad Strategol newydd 2018/19.

Mae hefyd gan y grŵp orolwg strategol ar faterion sydd yn effeithio ar ddiogelwch cymunedol o fewn Ceredigion, mae’n monitro perfformiad a chyflwyniad, ac yn rhoi canllawiau a chyfeiriad wrth ymateb i faterion sydd yn achosi neu wedi achosi pryder.

Dywedodd Mr Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion, “Mae’r cyfarfodydd yma yn gyfle ardderchog i aelodau’r gymuned fedru gwerthfawrogi’n llawn y gwir sefyllfa o droseddau ac anhrefn o fewn y sir. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion yn falch o’u cyflawniadau hyd yma yn nhermau lleihau troseddu ac anhrefn, ond nid ydynt yn hunanfodlon, ac maent yn parhau i fonitro cynnydd, tueddiadau a datblygiadau yn ofalus, nid yn unig er mwyn cynnal ond, lle bo hynny’n bosibl, gwella diogelwch cymunedol o fewn y sir.”

Bydd pynciau a drafodir o fewn y cyfarfod yn gymorth i gyflwyno blaenoriaethau lleol er mwyn ei ystyried yng nghyswllt y Cynllun yr Heddlu a Throseddau.

Mae’r Bartneriaeth Lawn yn cynnwys y cyrff canlynol: Cyngor Sir Ceredigion, Heddlu Dyfed Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Tân ag Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Gwasanaethau Carchar a Phrawf Ei Mawrhydi a’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol a Bwrdd Cynllunio Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Ardal Dyfed Powys.

Mae croeso i bawb fynychu. A rhagor o wybodaeth gallwch ffonio 01545 570 881 neu ebostio clic@ceredigion.gov.uk.

 

30/04/2018