Mae angen barn busnesau Canolbarth Cymru ar ddyfodol economi’r ardal a mesurau i hybu twf.

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, sy’n gyfuniad o sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat a sefydlwyd i atgyfnerthu economi’r ardal, wedi comisiynu ymgynghorwyr i ddatblygu cynllun economaidd i yrru twf. Mae’r gwaith hwn yn dilyn cyhoeddi cynllun gweithredu economaidd newydd Llywodraeth Cymru a chyhoeddi’r posibilrwydd o Fargen Twf y Canolbarth yng nghyllideb yr Hydref.

Bydd y Bartneriaeth yn gofyn barn busnesau ar faterion megis cysylltedd digidol, cymorth i fusnesau, seilwaith trafnidiaeth a sgiliau er mwyn nodi beth sy’n atal twf a’r cyfleoedd am dwf yn yr ardal.

Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Powys, Y Cynghorydd Rosemarie Harris, “Bydd Bargen Twf Canolbarth Cymru yn gyfle pwysig i’r ardal a fydd yn gofyn am gefnogaeth a chyfraniad llawn y sector preifat. Dylai cynigion ganolbwyntio ar weddnewid ac arloesi a datgloi’r rhwystrau at dwf i fusnesau lleol a buddsoddiad newydd.

“Bydd y gwaith sy’n mynd rhagddo yn nodi gweledigaeth a chyfeiriad clir i economi’r ardal. Bydd llais cymuned busnes Canolbarth Cymru’n hanfodol wrth fwydo i’r cynllun economaidd. Rydym yn awyddus i siarad ag arweinwyr busnesau’r ardal er mwyn helpu i lunio a dylanwadu ar dwf y dyfodol.”

Bydd y cynllun economaidd yn arwain at ddatblygu rhaglen o brosiectau a buddsoddiadau strategol a fydd yn helpu i drawsnewid economi Canolbarth Cymru a hyrwyddo twf dros y 15 mlynedd nesaf. Rhagwelir y bydd y prosiectau hyn yn deillio o amryw o ffynonellau ariannu, gan gynnwys y Fargen Twf posibl i Ganolbarth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Is-Gadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae busnesau a sefydliadau yn allweddol wrth ddatblygu economi'r rhanbarth a hybu twf. Dyma'r amser iddynt ddweud eu dweud am gyfleoedd i dyfu yn y rhanbarth ac rydym yn edrych ymlaen at glywed eu barn. Bydd hyn yn cyfrannu at y cynllun gweithredu sy'n cael ei baratoi ar hyn o bryd gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru i helpu i ysgogi twf economaidd yng Nghanolbarth Cymru dros y 15 mlynedd nesaf.”

Gall fusnesau gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein yma. 

Daw’r astudiaeth i ben yn yr Hydref gyda llunio cynllun economaidd strategol cytûn i Ganolbarth Cymru.

20/07/2018