Gofynnir barn ar Strategaeth Iaith Ceredigion arfaethedig 2018-2023.

Mae strategaeth arfaethedig Cyngor Sir Ceredigion yn gosod sut bydd y Cyngor - trwy weithio mewn cydweithrediad â sefydliadau partner eraill - yn mynd ati i hybu’r Gymraeg a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn ehangach o fewn yr ardal leol.

Mae datblygu’r Strategaeth yn un o ofynion Safonau’r Gymraeg yn unol ȃ Mesur y Gymraeg 2011.

Nod Strategaeth Iaith Ceredigion yw cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, ynghyd ȃ dangos ffyrdd ar gyfer grymuso rhwydweithiau cymdeithasol mewn ardal ddwyieithog. Mae Ceredigion yn parhau i fod yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, ond mae cymdogaethau yn newid, sydd yn gallu cael dylanwad ar yr iaith a’r diwylliant. Mae ymateb i’r heriau hynny, lliniaru’r risgiau sy’n wynebu’r Gymraeg a sicrhau hyfywedd y gymuned iaith Gymraeg yn golygu cynllunio ieithyddol trwyadl ynghyd ȃ gweithredu arwyddocaol ymhob agwedd o fywyd cymdeithasol ac economaidd y sir.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ac aelod y Cabinet â chyfrifoldeb am Safonau’r Iaith Cymraeg, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn,“Wrth weithredu’r Strategaeth hon bydd Ceredigion yn cyfrannu tuag at Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae’r Strategaeth yn gyfle inni gydweithio ar draws y Sir i gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg, a’i dwyn i fewn i’r rhannau hynny o’r gymdeithas yng Ngheredigion, lle nad ydyw o bosib mor amlwg ar hyn o bryd. Mae’r weledigaeth yma er mwyn cynnal Ceredigion wirioneddol ddwyieithog, lle mae modd gweld a chlywed y Gymraeg bob dydd yn cymunedau fel iaith gyfathrebu naturiol ym mhob agwedd o’n bywydau.”

Mae’r Strategaeth wedi ei lunio i fod mor realistig a rhagweithiol ȃ phosib er mwyn cyfrannu at y weledigaeth Ceredigion wirioneddol ddwyieithog, fodd bynnnag mae’r gweithredoedd yn unol ȃ’r hyn sydd o fewn maes dylanwad sefydliadau sy’n cyd-weithio trwy Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion.

Parhaodd Cynghorydd ap Gwynn, “Rydym yn eich gwahodd i wneud sylwadau ar y Strategaeth arfaethedig a’r camau gweithredu a gaiff eu cymryd i’w cyflawni ar gyfer Ceredigion. Rydym yn gwerthfawrogi eich barn, ac fe fydd eich sylwadau’n cael eu hystyried wrth gyhoeddi’r Strategaeth derfynol.”

Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 13 Awst 2018.

I weld y strategaeth arfaethedig, ewch i’r dudalen Ymgynghoriadau ar wefan y Cyngor, www.ceredigion.gov.uk. Mae croeso i unigolion gysylltu gyda’r Cyngor ar 01545 570881 os byddant yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach neu’r dogfennau mewn fformat arall. Gallwch hefyd gael copi papur o'r Strategaeth yn unrhyw un o Swyddfeydd Cyhoeddus neu Lyfrgelloedd y Cyngor.

16/07/2018