Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion (BGC) yn gofyn am farn y cyhoedd ynghylch fersiwn ddrafft Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028.

Mae'r Cynllun drafft yn amlinellu'r materion y bydd BGC Ceredigion yn cydweithio arnynt yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae'r Cynllun wedi’i seilio ar yr Asesiad o Lesiant Lleol 2021-2022 a ganolbwyntiodd ar gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar draws Ceredigion.

Fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, mae BGC Ceredigion yn gofyn am adborth ar sut y gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’ch llesiant chi, i’ch cymdogion ac i Geredigion yn gyffredinol. Bydd hyn yn cynnig gwell dealltwriaeth o sut i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal: o sefydlu busnesau newydd i warchod yr amgylchedd, ac o fynd i'r afael â thlodi ac unigrwydd i adeiladu ymdeimlad o gymuned a balchder ar draws y sir. Bydd yn gosod y seiliau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol, gan oresgyn yr heriau ar y cyd a manteisio ar y cyfleoedd sydd bwysicaf i bob un ohonom.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn unigryw i Gymru ac yn cynnig cyfle pwysig i wneud newid cadarnhaol, hirhoedlog i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn cydweithio er budd llesiant Cymru. Rydym yn croesawu barn a syniadau pawb, ac yn annog trigolion y sir i gynnig adborth ynghylch ai yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion ar y trywydd cywir i wella llesiant yn awr, yn ogystal ag ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae'r Cynllun Llesiant Lleol drafft a manylion pellach am sut y gallwch ddweud eich dweud ar gael ar dudalen ymgynghoriadau. 

Gall preswylwyr ymateb ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ffurflen ymateb a'i dychwelyd drwy e-bost neu ei phostio i'r cyfeiriad a nodir ar waelod y ffurflen. Mae copïau papur o’r Cynllun Llesiant Lleol a ffurflenni ymateb hefyd ar gael yn holl lyfrgelloedd Ceredigion, gan gynnwys y faniau llyfrgell symudol.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, neu angen y dogfennau mewn fformat arall, ffoniwch 01545 570881 neu drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 31 Ionawr 2023.

24/11/2022