Gofynnir am farn y cyhoedd ar gynllun amddiffyn yr arfordir ar gyfer Aberaeron.

Mae gan Aberaeron arfordir deinamig sydd â hanes o lifogydd a niwed o ganlyniad i stormydd. Mae digwyddiadau o’r fath yn dal i ddigwydd hyd heddiw, ac oherwydd newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd a ragwelir yn lefelau’r môr, mae digwyddiadau o’r fath yn debygol o ddigwydd yn fwy aml a bod yn fwy difrifol. Mae Aberaeron yn agored i ystod eang o donnau o gyfeiriadau'r gogledd-orllewin a'r de-orllewin; gyda thonnau stormydd yn mynd drwy fynedfa'r harbwr ac yn mynd dros waliau’r harbwr, ac yn mynd dros y wal eilradd fewnol. Bu’n rhaid cau Pen Cei o ganlyniad i stormydd ym mis Rhagfyr 2013, mis Ionawr 2014 a mis Hydref 2017 oherwydd bod dŵr yn mynd dros yr amddiffynfeydd presennol o fewn yr harbwr a thraeth y de.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Mae Cyngor Sir Ceredigion ynghyd â Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu'r dref. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i lunio cynllun a fydd yn atal yr ardal gyfagos rhag dioddef o ganlyniad i stormydd yn y dyfodol. Rhagwelir y bydd 168 o eiddo mewn perygl o lifogydd erbyn 2111 os na wneir unrhyw beth. Mae’r Cyngor wedi cyflogi Atkins Consultants i lunio cynllun o’r fath. Ar ôl ymchwilio i ba mor effeithiol yw gwahanol opsiynau amddiffyn yr arfordir, maent yn ceisio barn ar y cynllun sy’n cael ei gynnig wrth i’r gwaith modelu gadarnhau ei fod yn bodloni’r gofynion o ran amddiffyn rhag llifogydd yn awr ac yn y dyfodol.

Y prif amcanion yw diogelu’r arfordir rhag stormydd a chynnydd yn lefel y môr; diogelu pobl ac eiddo rhag llifogydd a thawelu meddyliau trigolion a busnesau bod mesurau ar waith i atal llifogydd ac erydu arfordirol. Bydd cyfleoedd ar gyfer gwell cyfleusterau, cysylltedd, buddsoddi ac ail-ddylunio mannau agored o fewn yr harbwr yn cael eu darparu o fewn y cynllun a bydd hefyd yn galluogi ymchwilio i gyfleoedd buddsoddi eraill.”

Mae’r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn caniatáu i drigolion ac ymwelwyr roi eu barn ar y cynllun. Bydd hyn y cynnwys newidiadau i Bier y De, estyniad i Bier y Gogledd a chyflwyno waliau amddiffyn rhag llifogydd o gwmpas ardal yr harbwr. Bydd yr adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried wrth lunio unrhyw ddyluniad manwl ar gyfer y cynllun.

Mae’r ymgynghoriad ar gael yma gyda chyfle i ddarparu adborth. Mae’r ymgynghoriad ar agor o 22 Medi 2020 tan 20 Hydref 2020. Oherwydd cyfyngiadau presennol pandemig Covid-19, bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar-lein yn unig. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.

22/09/2020