Mae cyfle i gael dweud eich dweud ar ddatblygu cyfrwng iaith i’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Bro Pedr, Llambed nawr ar agor.

Ar agor tan ddydd Mawrth, 18 Rhagfyr 2018, mae’r ymgynghoriad ffurfiol yn gyfle i gyflwyno safbwyntiau a sylwadau ar y cynnig neu i gynnig cefnogaeth i’r drefn bresennol.

Ar 15 Mawrth 2018, penderfynodd aelodau o Gorff Llywodraethol Ysgol Bro Pedr yn unfrydol i gefnogi proses ymgynghori ar ddatblygu cyfrwng iaith y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol. Yn ei gyfarfod ar 16 Hydref 2018, fe wnaeth Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gefnogi a chymeradwyo penderfyniad y Corff Llywodraethol i gychwyn cyfnod ymgynghori ar ddatblygu cyfrwng yr iaith i’r Gymraeg yn y cyfnod sylfaen yn yr Ysgol.

Ar hyn o bryd, addysgir disgyblion sy’n trosglwyddo o’r Dosbarth Derbyn i flwyddyn 1 mewn dosbarthiadau ar wahân. Addysgir un dosbarth yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg a’r llall trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai gweithredu penderfyniad y Corff Llywodraethol yn golygu mai dim ond addysg cyfrwng Cymraeg fyddai’n cael ei ddarparu at ddiwedd y cyfnod sylfaen. Byddai dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn parhau yng nghyfnod allweddol 2.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, y Cynghorydd Catrin Miles, “Mae’n bwysig clywed barn rhieni a phobl berthnasol eraill ar ddatblygu cyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr. Os aiff y penderfyniad ymlaen, mi fyddwn yn gweld mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Os cymeradwyir y cynnig ar ôl y cyfnod ymgynghori, bydd yn weithredol o 01 Medi 2019. Er hyn, byddai disgyblion sydd ar hyn o bryd yn derbyn eu haddysg yn y cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Saesneg yn parhau i wneud hynny nes iddynt drosglwyddo i gyfnod allweddol 2.

Gellir gweld y papurau ymgynghori ar www.ceredigion.gov.uk/ymgynghoriadau neu ffonio 01545 570881 am unrhyw ymholiadau.

06/11/2018