Mae Polisi newydd yn cael ei gyflwyno y bwriedir roi cyngor ac arweiniad i’r unigolion neu’r busnesau hynny sy’n bwriadu delio mewn metel sgrap neu gasglu metel sgrap ac mae adborth yn cael ei groesawu ar y drafft.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu cyflwyno Polisi mewn perthynas â’i rôl fel corff sy’n trwyddedu casglwyr metel sgrap ac iardiau sgrap ac yn gofyn am adborth ar y Polisi arfaethedig. Bwriedir hefyd iddo sicrhau bod swyddogion trwyddedu’n gweithredu mewn ffordd gyson sy’n dryloyw i’n cwsmeriaid.

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal am bedair wythnos ynghylch cynnwys y Polisi ar agor ac mae adborth yn cael ei groesawu, cyn ei dywys trwy broses ddemocrataidd y Cyngor i’w roi ar waith.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Drwyddedu, “Rydym yn annog adborth adeiladol i sicrhau bod y Polisi terfynol yn addas at ddibenion pawb. Yn benodol, rydym yn awyddus i gael gwybod os yw pobl yn cefnogi neu’n gwrthwynebu unrhyw agwedd ohono, unrhyw bryderon neu os oes unrhyw ddeunydd cyfeirio arall a fydd yn ein helpu i lunio’r Polisi hwn.”

Gofynnir am adborth amryw o grwpiau cyn cyflwyno’r Polisi gan gynnwys y cyhoedd; delwyr a chasglwyr metel sgrap lleol sydd wedi’u trwyddedu gan y Cyngor; holl aelodau etholedig Cyngor Sir Ceredigion; Cynghorau Tref a Chymuned; Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Dyfed-Powys.

Gallwch weld y Polisi Delwyr Metel Sgrap arfaethedig ar www.ceredigion.gov.uk/ymgynghoriadau. Dylech anfon eich sylwadau drwy e-bost at licensing@ceredigion.gov.uk cyn 12yp, 2 Mawrth 2018 gan roi ‘Ymgynghoriad Delwyr Metel Sgrap’ yn llinell pwnc yr e-bost.

26/01/2018