Anogir preswylwyr Ceredigion i fod yn wyliadwrus, hyd yn oed wrth i’r cyfyngiadau lacio i gwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd un.

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion yn parhau i gymryd agwedd ofalus, raddol tuag at leddfu’r cyfyngiadau. Mae ymdrechion ar y cyd hyd yma wedi arwain at Gymru sydd â'r cyfraddau achos isaf yn y DU ac rydym am ei gadw felly. Serch hynny, mae’r cyfradd achosion ar gynnydd. Mae’r ffordd yr ydym ni’n parhau â'n bywydau yn effeithio ar eraill.

Lleddfu cyfyngiadau Cymru

Bydd Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd un o ddydd Sadwrn, 17 Gorffennaf, gan gynnwys:

  • Caiff hyd at chwech o bobl gwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.
  • Caniateir cynnal digwyddiadau dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn eistedd neu 200 o bobl yn sefyll, ar ôl cynnal asesiad risg.

Bydd Cymru hefyd yn cymryd y cam cyntaf i lefel rhybudd sero wrth i'r cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd mewn mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau gael eu dileu. Bydd gan adeiladau a digwyddiadau awyr agored hefyd fwy o hyblygrwydd o ran pellhau corfforol.

Mae’r newidiadau eraill o 17 Gorffennaf yn cynnwys:

  • Caniatáu i hyd at 30 o blant o sefydliadau, fel y Brownis a’r Sgowtiaid, i fynd i ganolfannau preswyl dros wyliau’r haf.
  • Ei gwneud yn ofynnol i rannu’r risgiau a’r mesurau lliniaru a nodwyd yn yr asesiad risg COVID gyda chydweithwyr.
  • Dileu’r cyfyngiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bobl fod yn eistedd i yfed a bwyta mewn digwyddiadau yn unig.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a all Cymru symud i lefel rhybudd sero ar 07 Awst yn dilyn yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau. Serch hynny, nid yw lefel rhybudd sero yn golygu fod y pandemig drosodd ac mae dal angen cymryd camau i ddiogelu ein hunain ac eraill.

Gellir gweld manylion y cyfyngiadau ar y lefelau rhybudd a nodir yn y Cynllun Rheoli Coronafeirws ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/lefelau-rhybudd-covid-19

Y darlun yng Ngheredigion

Mae pryderon ynghylch lefelau achosion Coronafeirws yng Ngheredigion yn parhau. Rydym yn arbennig o bryderus am lefel y cynnydd yng Ngogledd y Sir. Mae ardal Borth a Bontgoch yn 188.2* fesul 100,000 o'r boblogaeth; Mae ardal Gogledd Aberystwyth bellach yn 192.4* fesul 100,000 ac mae ardal De Aberystwyth ar 179.3* fesul 100,000. Mae 6 o'r 9* ardal yng Ngheredigion dros 50 o achosion fesul 100,000 a dyma'r pwynt lle mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ymwneud â'r gyfradd drosglwyddo.

Mae'r mwyafrif o achosion bellach mewn pobl o dan 30 oed gan fod achosion o'r amrywiolyn Delta yn cynyddu yn y grŵp oedran hwn. Mae'r oedolion ifanc hyn yn agored i haint, salwch difrifol a Covid hir sy'n newid bywyd, yn ogystal â cholli cyflog os oes rhaid iddynt hunan-ynysu. Rydym yn annog pobl ifanc i ddilyn y rheolau, cyfyngu ar eu cyswllt cymdeithasol ac yn bwysicaf oll i gael y brechlyn i gadw eu hunain a'u teulu'n ddiogel.

Y brechlyn

Po fwyaf o bobl sy'n cael eu brechu, y gorau fydd pawb yng Nghymru yn erbyn effeithiau gwaethaf yr amrywiolyn delta. Mae brechlynnau wedi gwanhau'r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol ac ysbytai a marwolaethau. Ond nid ydyn nhw wedi torri'r cysylltiad yn gyfangwbl ac mae risg o hyd y gallai'r drydedd don hon o'r pandemig achosi niwed go iawn.

Mae'r nifer sy'n manteisio ar gael y brechlyn yng Ngogledd Aberystwyth gyda'r isaf yn Hywel Dda - mae 51.4% wedi derbyn y dos cyntaf a 29.8% yr ail ddos. Mae 61.4% o bobl ifanc 20-24 oed wedi cael y dos cyntaf a 7.2% wedi cael yr ail, yn ôl ffigyrau Hywel Dda. Mae hyn oll yn bryder mawr.

Cael y brechlyn yw'r ffordd fwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun ac eraill ac mae angen cymaint o bobl â phosibl i gael y ddau ddos ​​o'r brechlyn. Manteisiwch ar y cyfle i gael brechiad trwy fynd i'ch apwyntiad neu fynd i ganolfan cerdded i mewn. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda glinigau brechlyn Cerdded Mewn i alluogi preswylwyr Ceredigion i gael eu brechlyn cyntaf neu ail heb apwyntiad. Rhaid i breswylwyr sydd eisoes wedi cael eu brechlyn cyntaf aros 8 wythnos cyn iddynt gael eu hail frechlyn.

Felly os gwelwch yn dda, os ydych chi'n bartner, yn rhiant, yn gydweithiwr, yn ffrind, yn aelod o dîm, a'ch bod chi'n gwybod nad ydyn nhw wedi cael y brechlyn eto, anogwch nhw. Bydd hynny'n eu cadw'n ddiogel rhag y risgiau o fynd yn sâl a COVID hir. Bydd yn eu cadw'n ddiogel rhag mynd i'r ysbyty, a bydd hefyd yn cadw eu hanwyliaid sy'n hŷn ac yn fwy agored i niwed yn ddiogel.

Nid yw'r pandemig drosodd ac mae'r feirws yn parhau i ledaenu ledled ein sir a'n gwlad. Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

15/07/2021