Bydd Bayley Harries yn cystadlu mewn cystadleuaeth fawreddog sy'n rhoi cyfle i hyfforddeion a phrentisiaid ifanc ddangos eu sgiliau mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd galwedigaethol.

Mae Bayley yn brentis Trin Gwallt Lefel 2 yn Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT). Bydd yn cystadlu yn Rownd Rhanbarthol Cenedlaethol y DU i Gymru a gynhelir yn Wrecsam ddydd Llun, 26 Tachwedd.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei redeg gan World Skills. Mae hwn yn sefydliad sy'n anelu at ysbrydoli pobl ifanc sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd galwedigaethol i gyflawni eu potensial llawn yn eu dewis gyrfa. Os bydd yn llwyddiannus, bydd Bayley yn cael cyfle i gystadlu yn rownd Derfynol Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar 16 Rhagfyr.

Mae Carys Randell, ymgynghorydd hyfforddi trin gwallt yn HCT, wrth ei bodd yn gweld Bayley yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth sgiliau, gan ddweud, “Rydym yn dymuno pob lwc i Bayley yn y gystadleuaeth. Hoffem ddiolch yn fawr i'w chyflogwr, Sioned Rees, am yr holl gymorth a’r gefnogaeth wych mae’n rhoi i Bayley wrth iddi baratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Ni fyddai hi wedi dod mor bell heb y gefnogaeth hynny.”

Mae Bayley wedi arfer a dangos ei sgiliau ar lefel gystadleuol. Yn 2017, enillodd gystadleuaeth trin gwallt Lefel 1 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Enillodd hi eto eleni, gan gystadlu yn y categori Lefel 2.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros y Gwasanaeth Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae'n wych gweld Bayley yn datblygu gyda chymorth ei chyflogwr a staff HCT. Rydyn ni'n dymuno'n dda iddi hi yn Rownd Rhanbarthol Genedlaethol y DU ddiwedd y mis.”

Mae HCT yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ar gyfer pobl o bob oed, gan gynnwys Trin Gwallt, Gofal Plant, Gweinyddu Busnes, Technoleg Gwybodaeth, Gwaith Saer, Plymio, Trydan, Gofio, Amaethyddiaeth, Mecaneg Modur a Weldio.

Am fwy o wybodaeth, chwiliwch 'Hyfforddiant Ceredigion Training' ar Facebook, neu ewch i'r wefan.

 

15/11/2018