Mae cais Cronfa Cymunedau Arfordirol ar gyfer adnewyddu'r lanfa bren yn Aberystwyth i ddod â theithiau cychod pleser yn ôl i lan y môr wedi bod yn llwyddiannus.

Mae'r lanfa bren ar Bromenâd Aberystwyth wedi mynd yn anniogel i'w ddefnyddio gan gychod. Cymeradwywyd y cais a'r cyllid gan Gronfa Cymunedau'r Arfordir. Dyma arian Asedau Morol y Goron a weinyddir gan y Gronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth Cymru.

Nod y prosiect dwy flynedd yw adfywio gweithgareddau teithiau pleser ar lan y môr yn Aberystwyth. Bydd y prosiect yn galluogi dod a’r hen lanfa bren yn ôl i gyflwr y gellir ei ddefnyddio, sy'n addas i weithredwyr teithiau cychod i weld y golygfeydd.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio, “Mae'r uned dwristiaeth wedi derbyn ymholiadau achlysurol dros y tair blynedd diwethaf. Mae’r rhain wedi bod wrth weithredwyr cychod posibl ac aelodau'r cyhoedd ynghylch y posibilrwydd o weithredu teithiau cychod o'r lanfa ar gyfer teithiau golygfeydd byr. Bydd teithiau cychod yn manteisio ar nifer uchel yr ymwelwyr ar y Promenâd ac yn ychwanegu at y cynnig twristiaeth. Llongyfarchiadau i'r Tîm am y gwaith caled a'r cais llwyddiannus i'r Gronfa Loteri Fawr. Edrychaf ymlaen at weld dechrau'r gwaith yn fuan.”

Disgwylir i'r gwaith gostio cyfanswm o £76,000 gan gynnwys £4,000 o arian cyfatebol a nodwyd o fewn cyllidebau presennol y Cyngor.

Dywedodd Sian Callaghan, Cadeirydd y pwyllgor penderfyniadau ariannu, “Roeddem yn falch iawn o'r syniadau a ddaeth ymlaen o gymunedau arfordirol Cymru. Maen nhw wedi croesawu'r cyfle hwn a chreu syniadau gwych a fydd nid yn unig yn creu swyddi newydd ond hefyd yn atyniad a chynnyrch arbennig i ymwelwyr.”

Bydd y prosiect yn dechrau ar dendro'r gwaith adnewyddu mewn ymgais i gwblhau'r gwaith erbyn y tymor nesaf. Bydd argaeledd teithiau cychod o Aberystwyth yn darparu cyfleoedd twf busnes ar gyfer gweithredwyr teithiau cychod ac yn gwella profiad yr ymwelydd.

Mae'r penderfyniad yn cyfrannu tuag at Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor o hybu'r economi a hybu gwytnwch amgylcheddol a chymunedol.

06/11/2018