Mae hawliau tramwy cyhoeddus Ceredigion yn chwilio am gontractwyr i reoli a chynnal y llwybrau i bawb eu mwynhau.

Mae rheoli a chynnal rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus Ceredigion yn dibynnu'n rhannol ar dîm o gontractwyr allanol. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ceredigion yn ailsefydlu'r fframwaith ar gyfer y math hwn o waith.

Mae'r Cyngor yn chwilio am gontractwyr profiadol a chymwys gydag ystod o sgiliau ac arbenigedd i ymgymryd â thasgau i gynnal y llwybrau. Mae'r tasgau'n cynnwys ymgymryd ag arwyneb / draenio llwybrau, codi pontydd, gosod gatiau / grisiau / camfeydd / ffensio, rheoli llystyfiant a mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio, “Hawliau tramwy cyhoeddus yw sut mae trigolion ac ymwelwyr Ceredigion yn cyrchu ac yn mwynhau cefn gwlad hyfryd ein sir. Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o Dîm gan sicrhau bod y llwybrau'n ddiogel ac yn bleserus i'n cerddwyr.”

Bydd digwyddiadau ymgysylltu â'r farchnad yn cael eu cynnal ar 22 Gorffennaf a 18 Awst am 7pm. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau ar-lein sy'n cael eu cynnal ar Microsoft Teams lle gall pobl â diddordeb ddysgu mwy am y gwaith a'r gofynion ar sut i gael eu cynnwys ar y fframwaith. E-bostiwch Ymholiadau.Caffael@ceredigion.gov.uk i gofrestru diddordeb mewn mynychu un o'r digwyddiadau.

09/07/2021