Bydd Tîm Teulu, ar y cyd â Chanolfan Deuluol Penparcau, yn ymgeisio i greu’r freichled cyfeillgarwch hiraf yng Ngheredigion yn ystod Gŵyl Diwrnod Chwarae Pobl Ifanc eleni. Mae’r Ŵyl yn cael ei chynnal ar 1 Awst yn y Cae Sgwâr, Aberaeron gan Ray Ceredigion a’r cyfan am ddim i’w fwynhau.

Mae Tîm Teulu yn wasanaeth sy’n darparu cymorth i deuluoedd gan gyfrannu at lesiant teuluoedd yng Ngheredigion.

Dywedodd Nicky Sandford, Swyddog Datblygu Gwasanaeth, “Fe wnaethom benderfynu ar geisio gwneud y freichled cyfeillgarwch hiraf yng Ngheredigion eleni gan ein bod am ganolbwyntio ar adeiladu gwydnwch pobl ifanc trwy gyfeillgarwch. Mae cyfeillgarwch cryf wedi cael ei adnabod fel un o’r prif ffactorau yn sgil ein digwyddiadau diweddar mewn cefnogi pobl ifanc sydd wedi profi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Yn ystod y Diwrnod Chwarae, bydd ardal ryngweithiol, llawn o weithgareddau yn ein cwtsh ‘cyfeillgarwch’. Mae yna groeso cynnes i bawb.”

Mae’r freichled cyfeillgarwch yn cael ei chreu yng Nghlybiau Ieuenctid Ceredigion a Thîm Plant Anabl cyn y digwyddiad. Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i ddod at eu gilydd i greu breichledau a dod a hwy i’r Diwrnod Chwarae.

Parhaodd Nicky, “Gall pobl ifanc ddod yn rhan o’r sialens cyn y Diwrnod Chwarae gan greu breichled cyfeillgarwch gyda'u ffrindiau. Gallant ddanfon y breichledau i mewn i ni cyn y digwyddiad neu dod a nhw draw ar y diwrnod i weld sut mae eu cyfraniad nhw yn rhan o’r casgliad cyfan. Gallwch gynnal gweithgaredd grŵp i greu’r breichledau, dweud wrth eich ffrindiau neu wahodd iddynt ymuno i wneud breichled ar y diwrnod. Helpwch rannu’r neges i greu’r breichled cyfeillgarwch hiraf yng Ngheredigion!”

I unrhyw un sydd ddim yn siŵr sut i ddechrau gwneud breichled cyfeillgarwch, mae nifer o diwtorial ar gael i weld ar-lein.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Eiriolwr ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, “Mae cyfeillgarwch yn bwysig i les person. Mae’r syniad o greu breichled cyfeillgarwch yn hyfryd i bobl ifanc i fanteisio. Mae hyn yn gyfle i adlewyrchu ar y rhwymiad i’n gilydd a chyfeillgarwch i helpu pob un ohonon ni i ddiffinio a sylweddoli bywyd ystyrlon.”

Am ragor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, cysylltwch â Nicky Sandford ar 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk. Gellir danfon breichledau cyfeillgarwch wedi eu cwblhau at Nicky Sandford yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA.

Gellir cysylltu â Tîm Teulu ar 01545 572649 neu drwy e-bostio timteulu@ceredigion.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

17/07/2018